ROBERTS, JOHN JOHN ('Iolo Caernarfon '; 1840 - 1914), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor

Enw: John John Roberts
Ffugenw: Iolo Caernarfon
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1914
Priod: Ann Roberts (née Williams)
Plentyn: John Roberts
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Tir-bach, Llanllyfni, yn fab i John Roberts, a ddaethai yno o Amlwch yn 1824 pan ddaeth dyddiau blin ar waith copr Mynydd Parys. Ychydig iawn o addysg a gafodd ym more ei oes, a dechreuodd weithio'n ifanc gyda'i dad yn chwarelau Nant Nantlle.

Dechreuodd bregethu yn 1867; o ysgol Clynnog aeth i Goleg y Bala (1868-1872). Galwyd ef (1873) i fugeilio eglwys Trefriw, ac ordeiniwyd ef yn 1874; yn yr un flwyddyn priododd ag Ann Williams (1846 - 1910), merch y Castellgoed yn Eifionydd. Symudodd yn 1879 i eglwys y Tabernacl, Porthmadog, a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1909. Bu farw 5 Tachwedd 1914, yn 74 oed.

Bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1900, yn llywydd cymdeithasfa'r gogledd yn 1906, ac yn ddarlithydd Davies yn 1907, a chymerth ran helaeth ym mudiadau trefniadol ei gyfundeb, ond fel pregethwr ac areithiwr yr oedd ar ei orau.

Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth; enillodd y goron ddwywaith (1890, 1892) yn yr eisteddfod genedlaethol, heblaw cryn nifer o wobrau am arwrgerddi a chyfansoddiadau barddonol eraill, a bu'n feirniad ar bryddestau'r goron droeon. Rhifid ef ymhlith y 'beirdd newydd,' ac y mae ei waith yn nodweddiadol o'r ysgol honno - efallai'n dangos mwy o grebwyll a meddylgarwch nag o awen.

Cyhoeddodd saith o lyfrau: Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith, 1891; Ymsonau, 1895; Myfyrion, 1901; Breuddwydion y Dydd, 1904; Cofiannau Cyfiawnion, 1906; Crefydd a Chymeriad, 1910 (ei ddarlith Davies); a Cofiant Dr. Owen Thomas, 1912.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.