Ganwyd 9 Mawrth 1756 yn Llandecwyn, Sir Feirionnydd. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Wedi ymbriodi â merch ffermdy'r Plas, Llandecwyn, symudodd i fyw i dyddyn o'r enw Penyglannau, ym mhlwyf Maentwrog. Yr oedd yn delynor a ffidler enwog, ac ystyrid ef y datgeiniad gyda'r delyn gorau yn y wlad. Gallai ganu bob hydau o benillion ar unrhyw alaw a genid ar y delyn, ond ei hoff fesur oedd y cywydd. Enillodd yn eisteddfod Corwen, 12 Mai 1789 (yr arian-dlws - y tafod arian - rhoddedig gan Gymdeithas Gwyneddigion Llundain), yn eisteddfod Caerfyrddin 1819, a Wrecsam 1820. Gwasnaethodd fel beirniad a datgeiniad yn yr eisteddfod. Yn niwedd ei oes derbyniodd lawer o garedigrwydd mawr gan foneddigion haelionus a edmygai ei dalent. Bu farw yn nhŷ ei ferch yn Nolgellau, 2 Ebrill 1844, a chladdwyd ef ym mynwent Maentwrog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.