Ganwyd 27 Ionawr 1847 yn Nhalsarnau, Sir Feirionnydd. Etifeddodd ei ddawn gerddorol oddi wrth ei dad, Owen Roberts, a oedd yn un o sylfaenwyr gŵyl gerddorol castell Harlech. Apwyntiwyd ' O.O. ' yn brifathro ysgol elfennol Dolgellau yn 1872, ac yn y flwyddyn honno fe sefydlodd Gymdeithas Gorawl Idris. Ar yr un pryd bu'n brif sylfaenydd eisteddfod Meirion, a bu'n ysgrifennydd iddi ar hyd y blynyddoedd. Cyflawnodd wasanaeth mawr fel arweinydd Cymdeithas Gorawl Idris o 1872 hyd 1926, a chryn orchest ydoedd cadw côr o'r fath at ei gilydd am gyfnod mor faith, gan berfformio oratorïau clasur bob blwyddyn yn gyson. Nid rhyfedd, felly, i Brifysgol Cymru gyflwyno iddo y radd M.Mus., 'er anrhydedd,' 1926. Sefydliad arall a gafodd lawer iawn o'i sylw oedd gwyl gerddorol castell Harlech, a bu'n ysgrifennydd iddi am flynyddoedd. Cafodd y fraint o arwain yn y cyngherddau hynny ar fwy nag un achlysur. Yr oedd yn gas ganddo gystadleuaeth, a gwrthododd gystadlu ar hyd ei oes. Priodolai ffyniant maith Cymdeithas Gorawl Idris i'r ffaith na fu'r gymdeithas yn cystadlu o gwbl. Ei ddelfryd ef oedd perfformio'r oratorïau clasur. Yr oedd yn gymeriad hynod wreiddiol, a chlywir hyd heddiw storîau doniol am ei ffraethineb a'i ddull o drin dynion. Bu farw 26 Tachwedd 1926.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.