Ganwyd 2 Chwefror 1577/8 yn fab i Robert ap Hywel ap Rhys o Fron-yr-wylfa gerllaw Llanelwy, a'i wraig Agnes, o deulu Gruffyddiaid Gwerneigron. Tebyg iddo fynd i ysgol ramadeg y cabidwl yn Llanelwy. Erbyn 1599 ceir ef yn ' notary public ' yno, ac yn 1624 (30 Mehefin) penodwyd ef yn 'proctor' yn llys yr esgob. Priododd yn 1606 â Jane, un o ferched David ap Lewis ap Gronw, o Feiriadog, ac yn un o dai Meiriadog y bu fyw hyd 1622, pan fu farw ei dad a gadael digon o arian iddo i godi'r Fron Goch gerllaw; cafodd fab a phedair merch. Ni wyddys pa bryd y bu farw, ond deil i gofnodi digwyddiadau hyd ddiwedd 1646. Y mae'n hysbys fel awdur Y Cwtta Cyfarwydd, casgliad hynod ddiddorol o fanion hanes yr ardaloedd o amgylch Llanelwy, yn ymestyn o 1607 hyd 1646; golygwyd hwn gan D. R. Thomas yn 1883.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.