Ganwyd 22 Ebrill 1789 yn nholldy Carreg-hwfa, Llanymynech, yn fab i'r tollwr Richard Roberts (a oedd hefyd yn grydd) a'i wraig Mary (Jones, o Feifod) - Richard oedd yr ail o saith o blant. Yn ysgol y plwyf sylwodd y curad ar ei anian a rhoes bob swcwr iddi; pan nad oedd ond 10 oed gwnaeth y bachgen droell i'w fam. Ar ôl ysbaid fel cychwr ar y gamlas, aeth i weithio yng ngwaith calch Llanymynech; tua'r 20 oed yr oedd yn 'pattern-maker' mewn gwaith haearn yn Bilston; yn 1814, ar ôl sbel o weithio yn Lerpwl a Manceinion (i osgoi gorfod mynd i'r milisia), cerddodd i Lundain a chafodd waith mewn gwaith haearn yn Lambeth; ond yn 1816 dychwelodd i Fanceinion a chymerth weithdy bychan yn y Deansgate. Tua 1822-3 cymerth bartner o'r enw Hill (yn y cyfnod hwn bu am ddwy flynedd ym Mulhouse yn Ffrainc), ond yn 1828 ymunodd â Thomas Sharpe. Wedi marw Sharpe (1842), bu ar ei gyfrifoldeb ei hunan hyd 1845, yna o 1845 hyd 1851 yn bartner â gŵr o'r enw Fothergill; ond ni lwyddodd y bartneriaeth, a throes Roberts yn ' beiriannydd ymgynghorol.' Symudodd y fusnes honno i Lundain (Adam Street, Adelphi) yn 1861, a bu farw yno 11 Mawrth 1864; claddwyd yn Kensal Green. Bu'n briod ddwywaith; ei ferch Elizabeth (1835 - 1869) a ofalai amdano yn y diwedd. Yr oedd wedi mynd gryn dipyn yn ei ôl yn y byd, ac ar adeg ei farw yr oedd tysteb wedi ei chasglu iddo - trosglwyddwyd honno i'r ferch, gyda phensiwn o £200 gan y wladwriaeth. Dyn tal iawn, a chorffol, swta ei ymadrodd, oedd Richard Roberts, ag acen Gymraeg ddigamsyniol; yr oedd ganddo gof eithriadol. Dyfeisydd 'pur' ydoedd, mewn dwy ystyr: yn gyntaf, eilpeth oedd arian iddo - dyfeisiai'n reddfol, heb ymboeni ormod a oedd y ddyfais yn ymarferol yn ystyr fasnachol y gair; er iddo gymryd 'patent' bob blwyddyn am 28 mlynedd bron, ni phoenodd i gymryd patent ar liaws o'i ddyfeisiau. Yn ail, nid arbenigodd mewn unrhyw faes neilltuol - codai dyfais i'w feddwl, i ba gyfeiriad bynnag y trôi ei sylw. Nid geiriadur yw'r lle i fanylu ar ei ddyfeisiau - ceir disgrifiad pur llawn o amryw ohonynt yn y ffynonellau a nodir isod; ond gellir nodi iddo wneuthur gwelliannau mewn peiriannau nyddu a gwau, 'machine-tools,' peiriannau ager, ffyrdd haearn, llongau ac offer llongau, goleudai, clociau, ac ymlaen ac ymlaen - dyfeisiodd gerbyd modur (ager), ond ni chafodd hwnnw yrfa faith. Barn un awdurdod yw: ' He was one of the greatest mechanical inventors of the [19th] century.' Ni bu chwaith yn ôl o gymryd ei ran ym mywyd cyhoeddus Manceinion : yr oedd ym ' mrwydr Peterloo ' yn 1819, yn un o sylfaenwyr y ' Manchester Mechanics' Institute,' yn aelod o Gymdeithas Athronyddol a Llenyddol enwog y ddinas, ac yn aelod o'r cyngor dinesig pan gorfforwyd y fwrdeisdref yn 1838.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.