ROBERTS, WILLIAM ('Gwilym Eryri '; 1844 - 1895?), bardd a golygydd o Borthmadog, Sir Gaernarfon;

Enw: William Roberts
Ffugenw: Gwilym Eryri
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1895?
Rhiant: Catherine Roberts
Rhiant: David Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a golygydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 22 Mawrth 1844 ym Mhorthmadog yn fab i David a Catherine Roberts. Dywedir mai gwneuthurwr hwyliau oedd wrth alwedigaeth. Enillodd gryn nifer o wobrwyon am farddoniaeth mewn eisteddfodau lleol ac yn yr eisteddfod genedlaethol. Ef oedd bardd y gadair yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1877. Yn 1879 golygodd Lloffion y Flwyddyn, cyfrol o farddoniaeth a ymddangosasai yng ngholofn farddol yr Herald Cymraeg. Ychydig flynyddoedd wedi hyn golygodd gyfrol o weithiau Mary Davies, y bardd o Borthmadog, dan y teitl Blodeu Eifion, sef Gwaith Barddonol Mair Eifion. Cyhoeddwyd tair o awdlau a ddanfonodd i'r gystadleuaeth am y gadair yn yr eisteddfod genedlaethol yn 1884, 1887, a 1894, sef Awdl ar Gwilym Hiraethog, 1884; Y Frenhines Victoria, 1887; a Hunan Aberth, 1894. Ceir hefyd farddoniaeth o'i eiddo yn NLW MS 2126E a NLW MS 6679A .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.