Ganwyd yn 1746 yn Llandeilo-fawr, yn fab i Thomas Roderick o Langathen; yr oedd ganddo frawd a fu'n flaenllaw gyda'r gwaith glo a'r porthladd yn Llanelli (gweler A History of Carmarthenshire, ii, 344-5, 390) yn 1794. Aeth David Roderick yn 1764 i Goleg y Frenhines yn Rhydychen, a graddiodd yn 1767. Bu'n is-athro yn ysgol Harrow, a'r unig reswm dros ei gofio yw ei deyrngarwch i'r ysgolhaig Samuel Parr; pan ffromodd Parr yn 1771 a gadael Harrow am na chawsai'r swydd o brifathro, cynigiwyd lle Parr fel ail athro i Roderick, ond gwrthododd, gan ystyried fod Parr wedi cael cam. Bu'n ficer yn sir Gaerloyw, ac o 1784 ymlaen yn ficer Cholesbury (Berks); yno y bu farw 21 Awst 1830, yn 84 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.