Y mae'n debyg mai brodor o Gonwy ydoedd. Yn y dogfennau Lladin y mae ei enw yn amrywio - Rogerius de Conveney, R. de Conewey Cambrensis, a R. de Chonnoe. Yr olaf ydyw ffurf ei enw yn yr argraffiad o'r unig un o'i weithiau y gwyddys amdanynt. Bu'n efrydydd yn Rhydychen, a chael y gradd, o D.D. Yr oedd yn aelod o Urdd S. Ffransis yn nhalaith ('custodia') Caerwrangon, ond yn 1355 cafodd ddiploma gan y pab Innocent VI yn caniatáu iddo ymsefydlu yn nhalaith Llundain. Enwogir ef yn hanes y Ffransisciaid fel awdur traethodyn yn dwyn y teitl, yn ei ffurf argraffedig, Defensio mendicantium. Ysgrifennodd y gwaith hwn mewn ateb i'r traethodyn, Defensio curatorum, gan Richard FitzRalph, archesgob Armagh. Ysgrifennodd Roger ei draethodyn yn 1357, sef dwy flynedd wedi iddo ymsefydlu yn Llundain. Y pryd hynny ffynnai cryn wrthwynebiad i'r ymarfer o dlodi a chardota ymhlith aelodau'r urdd. Argraffwyd y traethodyn yn gyntaf yn Lyons yn 1494; adargraffwyd ef ym Mharis yn 1511, a cheir ef hefyd yn Monarchia Sancti Romani Imperii, gan M. Goldast, iii.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.