ROOSE, LEIGH RICHMOND (1877 - 1916), pêl-droediwr

Enw: Leigh Richmond Roose
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: R.L. Roose
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Thomas Richards

Un o brif chwaraewyr ei gyfnod, ceidwad y gôl dros Gymru. Yr oedd yn feistr ar holl anhepgorion y gelfyddyd, a dehonglai hwy yn null a modd gŵr o athrylith. Synnid yr edrychwyr gan ei grafanc sicr a'i symudiadau chwimwth; ond ysgogid y symudiadau gan farn aeddfed, dychymyg byw i ddyfalu dyfeisiadau ei wrthwynebwyr, a'r ddawn brin o fedru gweithredu ar drawiad amrant. O dan ei gyfaredd ymnewidiai'r cae chwarae'n faes pasiant; hoelid sylw'r dorf gan ryfeddodau ei ddau ddwrn, y ddwy droed, a'r llygaid bychain, bachog a weithiai y tu ôl iddynt; ymhyfrydai yntau yng nghymeradwyaeth y miloedd.

Ganwyd Roose yn Holt ger Wrecsam, 27 Tachwedd 1877, mab i R. L. Roose, gweinidog Presbyteraidd y lle; bu am dymor yn yr 'Holt Academy' cyn ymaelodi yng Ngholeg Aberystwyth yn Ionawr 1895. Dechreuodd hynodi ei hun fel chwaraewr rhwng y pyst yn y brwydrau rhwng y dref a'r coleg a rhwng y dref a chlybiau eraill yn ysgarmesoedd y 'Welsh Cup.' Ond gwelwyd cyn bo hir na fedrai byd y coleg a'r dref ei ddal; ym mis Chwefror 1900 gwahoddwyd ef i chwarae dros Gymru yn erbyn Iwerddon, y tro cyntaf o chwech. Yn erbyn Lloegr ymddangosodd naw gwaith; yn erbyn Sgotland, naw. Os yn iach a dianaf, nid oedd obaith i neb ei ddiorseddu. Yn ysbytai Llundain y treuliai ei oriau hamdden - ' this eminent bacteriologist ' yw cyfeiriad coeglyd ' Tityrus ' ato yn yr Athletic News - ond ei ysbeidiau mwy difrifol yn chwarae dros Gymru, a thros glybiau Everton, Sunderland, Stoke, a'r Glasgow Rangers, bob amser yn ddi-dâl ('amateur').

Ymunodd â'r lluoedd yn rhyfel 1914-8 a rhestrwyd ef gyda'r 'missing' yn Ffrainc yn 1916. Yn ei farw fe gollwyd nid yn unig chwaraewr mawr, ond personoliaeth gyfoethog a fedrai oreuro'r byd rhyddieithol hwn â rhamant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.