ROWLANDS, DANIEL (1827 - 1917), prifathro Coleg Normal Bangor

Enw: Daniel Rowlands
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1917
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg Normal Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Roberts

Ganwyd yn Llangefni, 21 Chwefror 1827. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Genedlaethol Llangefni. Dechreuodd bregethu yn 1848, a symud i Goleg y Bala, am dair blynedd, ac yna, yn 1852, i Brifysgol Edinburgh, lle y graddiodd yn M.A. yn 1856. Yn 1857, ordeiniwyd ef, a bu'n gwasnaethu eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanidloes o hynny hyd 1868, pryd y symudodd i Fangor i ymgymryd â'r swydd o brifathro yn y Coleg Normal. Nid cyfrannu addysg oedd ei brif orchwyl ef fel pennaeth y coleg - y dosbarth Beiblaidd wythnosol oedd ei unig ddosbarth - ond casglu arian at gynnal y coleg, ac, am gyfnod beth bynnag, hyrwyddo'r gwaith o sefydlu Ysgolion Brutanaidd yng ngogledd Cymru. Ymddeolodd yn 1891, ond bu yng ngwasanaeth y coleg fel ysgrifennydd hyd 1907. Ymroddodd hefyd i waith ei gyfundeb, a bu'n llywydd cymdeithasfa'r gogledd yn 1881 a'r cymdeithasfa'r gyffredinol yn 1890. Yn 1862, ymgymerodd â golygu 'r Traethodydd, swydd a lanwodd am 30 mlynedd. Ysgrifennai erthyglau meithion a niferus ei hun ar amrywiol faterion - diwinyddol, ac ysgrythurol, cymdeithasol, a gwleidyddol, ond rhaid caniatáu bod llawer ohonynt yn feichus o lafurfawr. Ef hefyd yn bennaf oedd yn gyfrifol am y ' Nodiadau Llenyddol,' a dengys ei adolygiadau manwl mor eang oedd cylch ei ddarllen ac mor ymroddgar ydoedd i hysbysu darllenwyr o gynnwys a gwerth prif gynhyrchion y Wasg yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn ei ymdrech i gynnal safon ei gylchgrawn, rhaid cydnabod iddo lwyddo i sicrhau cyfraniadau gwerthfawr gan ysgrifenwyr o fri, ac iddo ymdrin â Chymru yn fwy uniongyrchol nag o'r blaen, gan roddi mwy o le i bynciau'r dydd. Enwogodd ei hun hefyd fel pleidiwr dirwest. Priododd Bridget Griffith, merch G. J. Griffith, Aberystwyth, yn 1861. Bu iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw 24 Chwefror 1917.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.