ROWLAND (neu ROULAND), DAVID, ' of Anglesey ' (fl. 16eg ganrif), cyfieithydd, etc.

Enw: David Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Dywed Anthony Wood (Athenae Oxonienses) fod Rowland yn enedigol o sir Fôn, iddo adael S. Mary's Hall, Rhydychen, heb raddio, dyfod yn athro teulu i fab iarll Lennox, iddo drafaelio a dysgu ieithoedd, ac yna, ar ôl dychwelyd i Brydain, ddyfod yn athro i rai yn dysgu Groeg a Lladin. Cyhoeddodd A Comfortable Aid for Scholars, full of variety of Sentences, gathered out of an Italian author (London, 1578). Eithr fe'i coffeir yn fwyaf arbennig fel cyfieithydd nofel 'bicaresg' adnabyddus - The Pleausant Historie of Lazarillo de Tormes a Spaniarde, wherein is contained his maruelous deedes and life. With the straunge adventures happened to him in the seruice of sundrie Masters (London, 1586, ac argraffiadau eraill). Cyflwynwyd yr argraffiad cyntaf ' To the right Worshipful Sir Thomas Gressam Knight. ' Ysgrifennodd Rowland ' an epytaphe of my Lorde of Pembroke '; yr oedd hefyd yn gyfarwydd â'r bardd George Turbervile, awdur The Noble Arte of Venerie or Hunting.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.