Ganwyd 4 Mawrth 1836 yn Gwenfron, Rhosybol, ger Amlwch, sir Fôn, o deulu blaenllaw a dylanwadol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd addysg orau ysgolion y cylch. Prentisiwyd ef mewn masnachty yng Nghaergybi. Dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr yn y Tabernacl, Caergybi, yn 16 oed. Bu yng Ngholeg Annibynnol y Bala, 1853-6, ac yn New College, Llundain, 1856-7; yna'n athro cynorthwyol yng Ngholeg y Bala, 1857-8, a myfyriwr yng Ngholeg Aberhonddu, 1858-61; graddiodd yn B.A. (Llundain) ar ddiwedd ei dymor. Bu'n weinidog yr Hen Gapel, Llanbrynmair, 1861-6, eglwys yr Annibynwyr Saesneg, Trallwng, 1866-70, ac eglwys yr Annibynwyr Saesneg, Caerfyrddin, 1870-2. Daeth yn athro mewn gwahanol adrannau yng Ngholeg Aberhonddu, 1872-97, ac yn brifathro'r coleg o 1897 hyd ei farwolaeth 7 Ionawr 1907. Bu'n bleidiwr eiddgar i fudiadau a sefydliadau gwladol, cymdeithasol, cenedlaethol, a chrefyddol ar hyd ei oes lafurus. Yn ystod ei dymor fel athro cynorthwyol yn y Bala, areithiodd, dadleuodd, ac ysgrifennodd lawer dros fudiad y Wladfa; beirniadodd yn aml yn yr eisteddfod genedlaethol; bu'n aelod o bwyllgor addysg sir Frycheiniog am flynyddoedd, ac yn gefnogydd selog i Brifysgol Cymru; efe oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1902. Yr oedd ei waith llenyddol yn amrywiol; bu'n cydolygu 'r Dysgedydd am gyfnod; cydgyhoeddodd gyfrol o bregethau gyda'r Parch. D. E. Jenkins, Lerpwl; cyfieithodd ' Alcestis ' Euripides; golygodd Telyn Tudno, 1897; a chyhoeddodd ramadeg Cymraeg, 1897. Yr oedd yn bersonoliaeth urddasol, yn fonheddwr wrth natur, ac yn fawr ei ddylanwad ar ei fyfyrwyr. Y mae swyn ei gymeriad a chrefyddolder ei ysbryd i'w teimlo yn ei emynau tyner a gyhoeddwyd yn Y Caniedydd Cynulleidfaol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.