Ychydig o'i hanes sydd yn wybyddus ar wahân i'r hyn a awgrymir gan rai o'i ddarnau barddonol. Canodd i rai o drigolion Ardudwy, e.e. ‘Cywydd ffarwel i'r … Humffrey … Escob Bangor yn awr Escob Henffordd,’ ‘Cywydd marwnad Samuel Poole o Dyddyn y Felin …’ (Talsarnau), ‘Cywydd … o groeso ir Arglwyddes Owen ir Glynn’ (Talsarnau), ‘Cywydd marwnad Edward Lloyd, Cwm bychan 172(8),’ etc. Canodd hefyd garolau plygain, cerddi, ac englynion. Ceir ei waith yn Cardiff MSS. 47, 48, 64, ac yn y llawysgrifau hyn yn Ll.G.C. — Cwrtmawr 12, 69, 128, 230, Glyn Davies 1, Plas Nantglyn 3, Brogyntyn 3, Wynnstay 7, N.L.W. 593, 673, 783, 836, 1238, 1244, 1485, 1578, 2117, 2692, 4971, 6729, 10252, 10744, 12867.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/