SANDERS, IOAN (fl. 1786); cynghorwr Methodistaidd ac emynydd
Enw: Ioan Sanders
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Katharine Monica Davies
Yr oedd yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn agos i Bembre, Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddodd lyfr o emynau yn 1786 o dan yr enw Hymnau a Chaniadau Duwiol, ar fesurau hen a newydd; gyd a phrofiadau ysgrythurol er cadarnhad i'r gwirionedd (Caerfyrddin, 1786).
Awdur
Ffynonellau
- W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (Caernarfon 1907)
- W. Rowlands, Llyfryddiaeth y Cymry
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733288
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/