Ganwyd yn 1808, mab Owen Philipps, Williamston, gerllaw Neyland, Sir Benfro, a'i wraig Elizabeth Anne Scourfield, Moat, Sir Benfro. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow a Choleg Oriel, Rhydychen. Bu'n siryf Sir Benfro, 1833, yn aelod seneddol dros Hwlffordd, 1852-68, a thros sir Benfro, 1868-76. Priododd, 1845, Augusta Lort Philipps, Lawrenny, Sir Benfro, a bu iddynt ddau fab. Pan etifeddodd, 1862, stad ei ewythr o ochr ei fam, William Henry Scourfield, Moat a Robeston Hall, cymerth ei gyfenw a'i arfau hefyd. Gwnaethpwyd ef yn farwnig gan Disraeli, 18 Chwefror 1876, eithr bu farw ar 3 Mehefin y flwyddyn honno. Ceir rhestr o weithiau Scourfield yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, iii, 37-8. Y cyntaf ydyw Dies Landoveriensis, c. 1847, yn dychanu ysgol newydd Llanymddyfri. Yna daw Lyrics and Philippics, 1859 (arg. arall yn 1864 ac un wedi hynny), The Grand Serio-Comic Opera of Lord Bateman and his Sophia, 1863 (arg. arall yn 1865), a The Mayor's Tale: A Tragic and a Diabolic Opera. By J.H.S., late J.H.P. (heb ddyddiad, eithr ni all fod cyn 1862). Er mai yn Saesneg yr ysgrifennai Scourfield, y mae i lawer o'i ganeuon ddiddordeb Cymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.