SHORT, THOMAS VOWLER (1790 - 1872), esgob Llanelwy

Enw: Thomas Vowler Short
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1872
Priod: Mary Short (née Davies)
Rhiant: William Short
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Thomas Havard

Ganwyd yn Dawlish, 16 Medi 1790, yn fab i'r archddiacon William Short. O ysgolion Exeter a Westminster, aeth i Goleg Eglwys Crist yn Rhydychen; graddiodd (â ' double first') yn 1813; bu'n gymrawd o'i goleg ac yn ddarlithydd a swyddog yno hyd 1823. Bu wedyn â gofal rhes o blwyfi arno, hyd ei ethol yn esgob Ynys Manaw yn 1841. Symudwyd ef i esgobaeth Llanelwy yn 1846. Ymddeolodd, 8 Ionawr 1870, a bu farw yn ficerdy Gresford, 13 Ebrill 1872; claddwyd ef yn Llanelwy. Cyhoeddodd gryn nifer o lyfrau ar bynciau diwinyddol ac addysgol. Efallai'n wir mai addysg oedd ei brif ddiddordeb; cyfrannodd yn hael, allan o'i gyflog ac o'i incwm personol, at godi ysgolion yn ei esgobaeth - pan fu farw nid oedd blwyf yn yr holl esgobaeth heb ysgol. Ymddiddorai hefyd yn nulliau cyfrannu addysg; noder yn neilltuol iddo, serch mai Sais uniaith ydoedd, fynnu darparu gwerslyfrau ac ynddynt wersi Cymraeg a Saesneg wyneb yn wyneb â'i gilydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.