SOUTHALL, JOHN EDWARD (1855 - 1928), Crynwr, argraffydd, cyhoeddwr, ac awdur

Enw: John Edward Southall
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1928
Priod: Ann Southall (née Berry)
Rhiant: Elizabeth Southall (née Trusted)
Rhiant: John Tertius Southall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr, argraffydd, cyhoeddwr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Llanllieni, Swydd Henffordd, mab John Tertius Southall, a'i wraig Elizabeth (Trusted). Cafodd ei addysg mewn ysgol yn Weston-super-Mare ac yn ysgol y Crynwyr, Bootham, Caerefrog. Dechreuodd ddysgu Cymraeg pan oedd yn fachgen a daeth yn bur hyddysg yn yr iaith. Ymsefydlodd fel argraffydd yng Nghasnewydd-ar-Wysg yn 1879, a bu'n cyhoeddi llyfrau a llyfrynnau yno, gan gynnwys llyfrau at wasanaeth ysgolion yng Nghymru a Lloegr, am tua 40 mlynedd. Ysgrifennodd lawer ar ffydd y Crynwyr, e.e. Quakerism as a Factor in the World's History, Quakerism as a Universal Religion, etc. Gwnaeth astudiaeth arbennig, fel unigolyn ac fel cyhoeddwr, o broblem dysgu'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion gan ddechrau gyda thystiolaeth ('Bilingual teaching in Welsh elementary schools') a roddodd yn 1886-7 gerbron y comisiwn brenhinol ar addysg. Ymysg ei lu cyhoeddiadau o ddiddordeb Cymraeg y mae Wales and her Language considered from a historical, educational, and social standpoint (1892, ail arg. yn 1893); The Welsh Language Census of 1891 … and remarks on the future of the language, 1895; Preserving and teaching the Welsh Language in English speaking districts, 1899; The Welsh Language Census of 1901, 1904; heblaw cyfres ddwyieithog o lyfrau darllen. Ymddeolodd o'i fusnes rywbryd tua 1924 a bu farw yn Caswell Terrace, Llanllieni, 13 Tachwedd 1928. Enw ei wraig oedd Ann Berry.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.