Ganwyd yn Wigan, mab Henry Taylor, perchennog glofa. Daeth yn gyfreithiwr yn 1864 ac, o 1873, yn brif bartner ffyrm Boydell a Taylor, cyfreithwyr, Caer; o 1874 hyd 1906 ef oedd clerc corfforaeth tre'r Fflint. Priododd - Venables, Whitchurch, Sir Amwythig, a ganwyd pedair merch o'r briodas.
Cofir am Taylor yng Nghymru, yn bennaf, fel awdur Historic Notices … of the Borough and County-Town of Flint, 1883. Yr oedd, yn ei gyfnod, yn un o'r rhai mwyaf hyddysg yn hanes a hynafiaethau gogledd-ddwyrain Cymru a sir Gaerlleon. Cyfrifir ef yn bennaf sylfaenydd y Flintshire Historical Society ac ysgrifennai i gylchgrawn y gymdeithas honno a chylchgronau cymdeithasau cyffelyb yn sir Gaerlleon, etc. Cynullodd lu o ddefnyddiau - llyfrau, llawysgrifau, a chof ysgrifau, a darluniau - ynglŷn â Sir y Fflint, a throsglwyddodd y casgliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru - yr oedd yn aelod o lys a chyngor y Llyfrgell - i ffurfio cnewyllyn yr hyn a elwir yn 'Flintshire Historical Collection.' Y mae adran llawysgrifau a chofysgrifau Taylor yn y casgliad arbennig hwn yn ymestyn o NLW MSS 6267-6331 , ac yn dangos mor eang oedd cylch ei ddiddordebau; cadwodd Taylor, er enghraifft, lu mawr o'r llythyrau a dderbyniodd oddi wrth haneswyr a hynafiaethwyr yng Nghymru, Lloegr, etc. Yr oedd yn F.S.A. a chafodd radd M.A. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Manceinion. Bu farw 3 Ionawr 1927.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.