Ganwyd 9 Awst 1757 yn Westerkirk, pentref bychan diarffordd yn Dumfries, Sgotland, yn fab i fugail. Ceir ei hanes yn D.N.B. a gweithiau eraill; gweler hefyd Syr Alexander Gibb, The Story of Thomas Telford: The Rise of Civil Engineering (London, 1935); yma ni bydd a fynnom ond â'i waith yng Nghymru a'r goror. Daeth Telford yn ' surveyor of public works ' yn Swydd Amwythig ac, yn 1793, yn beiriannydd, pensaer, etc., i gwmni'r Ellesmere Canal, a oedd am gysylltu afonydd Merswy, Dyfrdwy, a Hafren. Golygodd y gwaith ar y gamlas i Telford orfod gwneuthur dau beth a oedd yn anghyffredin braidd ym Mhrydain ar y pryd ac a brofodd gymaint o wreiddiolder a berthynai iddo fel cynlluniwr a pheiriannydd, sef gwneuthur y pontydd sydd yn cario dwr y gamlas dros ddyffryn afon Ceiriog yng Nghastell y Waun (Chirk) a thros ddyffryn Dyfrdwy ym Mhontycysylltau - dau waith y dywedwyd amdanynt eu bod ' among the boldest efforts of human invention in modern times.' Bu gwaith Pontcysylltau ar droed o 1795 hyd 1805 a'r llall o 1796 hyd 1801. Wedi hyn bu Telford yn brysur mewn mannau eraill; er enghraifft, yn Sgotland - ffyrdd, pontydd, a phorthladdoedd, a'r Caledonian Canal. Yr oedd mor brofiadol yn y gwaith o wneuthur neu wella ffyrdd a phontydd nes y gofynnwyd iddo gan y Llywodraeth dalu sylw i'r ffordd sydd yn arwain o Amwythig i Gaergybi - y 'ffordd bost,' i Iwerddon, yr ' Holyhead Road ' fel y gelwir hi hyd heddiw, ac yn arbennig i gwestiwn pontio Menai a thrwy hynny osgoi perygl croesi rhwng Sir Gaernarfon a sir Fôn mewn ysgraffau. Cynlluniodd Telford bont grog dros gulfor Menai, rhywbeth nad oedd peirianwyr Lloegr ddim wedi gwneud fawr o arbrawf arno cyn hyn. Wedi i arbenigwyr roddi barn ar y cynllun ac i un o bwyllgorau'r Ty Cyffredin ei gymeradwyo penderfynodd y Senedd ddarparu'r arian. Dechreuwyd gwaith ar y bont ym mis Awst 1819 a chwplawyd ef, bron, ym mis Ebrill 1825. Yn 1822-6 gwnaeth Telford bont gyffelyb dros afon Conwy. Heblaw ei waith yng Ngogledd Cymru a'r gororau bu Telford yn paratoi adroddiadau ar rai o ffyrdd De Cymru; gweler y rhestr ffynonellau isod. Am ei waith yn Amwythig (y castell, y carchar, eglwysi, etc.) a Sir Amwythig gweler llyfr Syr Alexander Gibb. Bu Telford farw yn Llundain ar 2 Medi 1834 a chladdwyd ef ar y nawfed o'r mis yn abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.