THOMAS, DAVID (1794 - 1882), un o arloeswyr y diwydiant haearn yn U.D.A.

Enw: David Thomas
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1882
Rhiant: Jane Thomas
Rhiant: David Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr y diwydiant haearn yn U.D.A.
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 3 Tachwedd 1794, mab David a Jane Thomas, Tyllwyd, fferm ym mhlwyf Llangatwg-dyffryn-Nedd, Sir Forgannwg. Cafodd beth addysg yn Alltwen (Pontardawe) a Chastell Nedd cyn iddo ddechrau gweithio ar y fferm gyda'i dad ac wedyn (1812) yn y Neath Abbey Iron Works. Yn 1817 yr oedd yng ngwaith haearn Ynyscedwyn a gofal ffwrneisiau, etc., arno. Yn ystod y 22 mlynedd y bu yn Ynyscedwyn bu'n gwneuthur arbrofion ar ddefnyddio glo carreg ('anthracite') fel cynnud wrth wneuthur haearn. Llwyddodd yn ei arbrofion, ac iddo ef y mae'r clod am wneuthur yr haearn 'anthracite' cyntaf a wnaethpwyd erioed. Fe'i gwahoddwyd gan y Lehigh Coal and Navigation Company, Pennsylvania, U.D.A., i fynd drosodd, ac aeth yntau yno ym mis Mehefin 1839. Erbyn 1840 yr oedd wedi peri gwneuthur cyfnewidiadau mawr yn y diwydiant haearn ac o hynny ymlaen llwyddodd yn fawr, gan ddyfod maes o law yn un o'r gwŷr enwocaf yn y diwydiant haearn yn U.D.A. Ffurfiodd yr eglwys Bresbyteraidd gyntaf yn Casanqua yn 1840. Bu farw 20 Mehefin 1882.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.