Ganwyd yn Cnapsych, Llanwennog, Sir Aberteifi, 4 Mehefin 1828. Addysgwyd ef yn ysgol Cribyn, a bu ef ei hun yn cadw ysgol yn Cribyn, Bwlch y Fadfa, Mydroilyn, Llanarth, Cwrtnewydd, a Llanwnnen yn Sir Aberteifi. Ymddiswyddodd yn 1883. Cyfrannodd lawer i amryw gyfnodolion fel Seren Gomer a'r Ymofynydd. Cyhoeddwyd pedair cyfrol o'i farddoniaeth: Y Blodau, 1854; Blodau Hefin, 1859; Blodau'r Awen, 1866; Blodau Hefin, 1883. Bu farw 9 Mawrth 1909.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/