Brodor o Aberystwyth medd Bye-Gones, eithr cyfeirir ato mewn englyn coffa yn Y Geninen fel Meirionwr - o Ddolgellau, yn ôl y Welsh Gazette a'r Cambrian News. Bu'n bennaeth ar rai o'r gweithwyr yn swyddfa argraffu 'r Cambrian News, Aberystwyth; wedyn bu yng Nghaerdydd am dros 20 mlynedd ar staff y Western Mail, ar y cyntaf yn bennaeth ('overseer') yn y swyddfa argraffu ac wedi hynny yn golygu y Weekly Mail. Ysgrifennodd lawer ar faterion Cymreig ac ystyrid ef yn amddiffynnydd yr iaith. Bu farw 15 Mehefin 1906 yn Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.