THOMAS, THOMAS EMLYN ('Taliesin Craig-y-felin '; 1822 - 1846), gweinidog Undodaidd, bardd, ysgolfeistr

Enw: Thomas Emlyn Thomas
Ffugenw: Taliesin Craig-y-felin
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1846
Rhiant: Elizabeth Thomas
Rhiant: David Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd, bardd, ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Barddoniaeth
Awdur: David Jacob Davies

Ganwyd fis Tachwedd 1822 yn Penygraig (Pengraigwnda), plwyf Penbryn, Sir Aberteifi, yn fab i David ac Elizabeth Thomas. Addysgwyd yn yr ysgol a gedwid drwy haelioni'r rheithor yn Troedyraur, Ffrwd-y-fal, a Choleg Caerfyrddin (1839-43). Ordeiniwyd yn weinidog eglwysi Undodaidd Cribin a Chiliau Aeron yn 1843 (gweler Seren Gomer, 1843, 275), ac fe gadwodd ysgol yng Nghribin drwy'r cyfnod yma. Yr oedd yn olygydd cyhoeddiad mewn llawysgrifen o'r enw ' Goleuni Glan Ceri ' rywbryd cyn 1842 (Gen., 1901, 71, 159). Cyfrannodd farddoniaeth ac erthyglau i Seren Gomer, 1842-6; rhai o'i brif ysgrifau oedd ' Awen,' ' Orgraph y Gymraeg,' ' Cofiant Mr. Rees Jones ('Amnon'),' ' Ofergoeledd Cenedl y Cymry.' Yn ' Ein Hiawnderau ' galwodd am benodi barnwyr yn deall Cymraeg yn llysoedd barn Cymru. Enillodd ar yr englyn yn eisteddfod y Fenni, 1845. Bu farw 21 Ebrill 1846. Claddwyd yn Nhroedyraur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.