Mab John Abel (neu John Thomas) a oedd yn fab i Thomas Abel o'r Wtra Wen ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn. Argraffydd oedd wrth ei alwedigaeth, a chan ei fod hefyd yn ysgolhaig Cymraeg da yr oedd galw mawr am ei wasanaeth mewn argraffdai Seisnig lle'r argreffid llyfrau Cymraeg. O Amwythig, lle y gweithiai yn 1765, symudodd i Gaer; yna, tua 1767, i Gaerfyrddin lle'r arhosodd am rai blynyddoedd ac y bu'n cywiro proflenni argraffiad Cymraeg o'r Beibl. Cyfrannodd ef a'i dad, John Thomas, i'r Eurgrawn Cynmraeg, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf a argraffwyd, 1770. Yr oedd yn fardd, a chyhoeddai ei gerddi o dan y ffugenw 'Ieuan Fardd Ddu.' Yn 1781 yr oedd yn gysodydd yn swyddfa T. Wood, cyhoeddwr cyntaf y Shrewsbury Chronicle. Ef oedd awdur neu gyfieithydd Anfeidrol werthfawrogrwydd Enaid Dyn, 1767; Barnedigaethau ofnadwy Duw, 1767; cyfieithodd Grace Abounding (John Bunyan) o dan y teitl Helaethrwydd o Ras, 1767; A Life of Faith (W. Romaine), o dan y teitl Traethawd ar Fywyd Ffydd, 1767; a golygodd Hymnau cymmwys i addoliad Duw o waith y diweddar Parch. Jenkin Jones... ynghyd a'i Farwnad , 1768. Am beth amser hefyd cyhoeddodd almanac o dan ei enw ef ei hun.
Yn anffodus ymroes i ddiota, ac yn ei flynyddoedd olaf dirywiodd i fod yn gymeriad gwael. Rhoddodd heibio ei alwedigaeth fel argraffydd gan ymgymryd â seryddiaeth, dewiniaeth, a dywedyd ffortiwn. Yn niwedd ei yrfa cafodd noddfa yn yr House of Industry, Amwythig.
Priododd Ellen Parry, a oedd yn chwaer i William Parry, o'r Cae Ceirch, Dolgellau, Warden Ysgol Rhuthun (Bye-Gones, 6/3/1901, 4/6/1902, 21/1/1903) - fe'u priodwyd 15 Mehefin 1766 yn S. Chad. Amwythig, yn ôl rhestr y plwyf.
Bu farw yn nhloty Amwythig, 12 Ionawr 1814 - Shrewsbury Chronicle, 14 Ionawr 1814; talwyd 2s. 10d. i'r cludwyr yn ei angladd, meddai cyfrifon y tloty yn 'Record Office' Amwythig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.