Ganwyd 16 Ebrill 1850 yn Canonbury, Llundain, mab William Thomas (1808 - 1867), Cymro yn adran gyfreithiol swyddfa'r Inland Revenue, Somerset House, Llundain, a Melicent Gilchrist. (Am y cysylltiad rhwng William Thomas a phlwyf Llanafan, Sir Aberteifi, gweler cofiant y dyfeisydd gan ei chwaer, Lilian Gilchrist Thompson, a'r erthygl yn y Cambrian News, y cyfeirir atynt isod.) Oblegid i'r tad farw pan oedd y mab yn 17 oed, bu raid iddo adael Dulwich College lle yr oedd ar y pryd ac felly fethu mynd i brifysgol. Bu'n athro ysgol am ychydig fisoedd ac wedi hynny (o 1867) yn glerc yn llys ynad Marlborough Street, Llundain, a throsglwyddo o'r fan honno i swydd gyffelyb yn y Thames Police Court. Cadwodd ei swydd fel clerc am flynyddoedd lawer, eithr âi i ddosbarthiadau mewn gwyddoniaeth a gynhelid gyda'r nos, a dechreuodd wneuthur arbrofion drosto'i hunan. Clywsai gan un o'i athrawon am broblem ynglŷn â gwneuthur dur yr oedd Syr William Bessemer ac eraill yn rhoddi sylw arbennig iddi, a phenderfynodd yntau chwilio am ateb i'r broblem. Amcan yr ymchwil a oedd ar droed oedd darganfod modd i gael gwared o'r ffosfforus yn yr haearn brwd yr oeddid yn ei ddodi yn y Bessemer 'converter,' fel y gelwid rhan o'r peirianwaith a ddefnyddid i wneuthur dur. Wrth weithio yn ôl dull Bessemer a'r dull a elwid yn ' Siemens-Martin,' canfyddid, oherwydd bod gormod o ffosfforus yn y defnyddiau y gwneid dur ohonynt, fod y dur a geid yn frau. Erbyn 1875 llwyddodd Thomas i ddyfeisio dull nad oedd yn derfynol ond a oedd yn gam pwysig ymlaen. Rhoes fanylion i'w gefnder Percy Gilchrist, a oedd yn gemegwr mewn gwaith haearn yn Blaenavon, sir Fynwy; cafodd y ddau wyddonydd ganiatâd i wneuthur arbrofion ar ddyfais Thomas mewn gwahanol weithydd haearn yn siroedd Mynwy a Morgannwg. Yn 1878 hysbysodd Thomas mewn cyfarfod o aelodau'r Iron and Steel Institute yn Llundain ei fod wedi llwyddo i gael gwared o'r ffosfforus a ddefnyddid yn 'converter' Bessemer, ac ym mis Mai y flwyddyn honno cymerth allan y 'patent' cyntaf allan o liaws a gafodd o hynny ymlaen. Dechreuwyd manteisio ar y ddyfais yn fuan ym Mhrydain yn Ewrop, ac yn yr America. Yn sgil ei ddyfais, a ddaeth i'w galw yn 'basic process,' darganfu Thomas bod mwy o 'slag' na chynt yn cael ei gynhyrchu wrth wneuthur dur yn ôl ei ddull ef, eithr nid hir y bu cyn profi y gellid defnyddio'r 'basic slag' hwn i wrteithio'r tir. Yn rhinwedd ei ddyfais bwysig a'r elw a ddeuai iddo o'i phlegid ac o werthu'r 'basic slag' i ffermwyr, daeth y dyfeisydd yn gyfoethog. Eithr yr oedd wedi gwneuthur ei holl ddarganfyddiadau ar gost ei iechyd, ac ofer fu pob taith a gymerodd er ceisio cael ei iechyd yn ôl. Bu farw ym Mharis, 1 Chwefror 1885, a chladdwyd yng nghladdfa Passy. Ni fu yn briod. Gan ei fod yn coleddu syniadau radicalaidd a dyngarol, trefnodd fod y cyfoeth mawr a ddaeth yn eiddo iddo i'w adael i'w chwaer gyda chais iddi hi ddefnyddio y rhan fwyaf ohono i noddi sefydliadau dyngarol, etc.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.