THOMAS, FREDERICK HALL (‘Freddie Welsh’; 1886 - 1927), paffiwr

Enw: Frederick Hall Thomas
Ffugenw: Freddie Welsh
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1927
Priod: Fanny Thomas (née Weston)
Rhiant: Elilzabeth Thomas (née Hall)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 5 Mawrth 1886, ym Mhontypridd, mab i John Thomas o Bontypridd, a Elizabeth Thomas (ganwyd Hall). Cafodd ei addysg yn Long Ashton, Bryste, a dangosai duedd gref anghyffredin at chwaraeon er pan yn ieuanc iawn. Pan yn yr ysgol cipiodd nifer o wobrwyon am baffio, ymaflyd codwm, rhedeg, a neidio.

Cafodd ei lwyddiant cyntaf o bwys pan yn 20 oed, pryd y curodd Hock Heyes am gampwriaeth ysgafnbwys Awstralia, trwy ei fwrw allan yn yr ail rownd ar bymtheg mewn ymladdfa o ugain rownd. Ar ôl hyn daeth un gampwriaeth ar ôl y llall iddo. Dechreuodd trwy ddyfod yn ben paffiwr ysgafnbwys Cymru, gan ddwyn y teitl oddi ar Johnnie Owens yn 1907. Yna aeth ymlaen i guro Johnnie Summers am gampwriaeth ysgafnbwys Lloegr a Phrydain Fawr, a thrwy hynny enillodd y ‘Lonsdale Belt’ gyntaf i gael ei chynnig yn y dosbarth hwnnw. Ymhen tair blynedd, yn 1912, cafodd Welsh fuddugoliaeth dros Hughie Mehegan, ac yna ennill campwriaeth ysgafnbwys yr Ymerodraeth Brydeinig a'r ail ‘Lonsdale Belt.’ Yn fuan ar ôl hyn enillodd y trydydd ‘Lonsdale Belt’ trwy orchfygu Matt Wells am gampwriaeth Prydain Fawr, gan adennill y teitl a ddygodd Wells oddi arno yn 1911. Yn 1914 gorchfygodd Willie Ritchie am gampwriaeth ysgafnbwys y Byd.

Cyflawnodd ‘Welsh’ lawer camp ym myd paffio. Yn 1907 ymladdodd â thri o wrthwynebwyr mewn un diwrnod a'u gorchfygu; eu henwau oedd Evan Evans (ysgafnbwys), Charlie Weber (is-ganolbwys), a Gomer Morgan (trymbwys).

Yn ddiweddarach aeth i fyw i America, a daeth yn gyfarwyddwr ar ‘health farm’ yn Bayside, Long Island. Yr oedd hefyd yn brif gyfarwyddwr yr adran ymarfer corff yn y ‘Walter Reed Army General Hospital,’ Washington, D.C.

Bu farw 28 Gorffennaf 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/