THOMAS, JOHN ('Pencerdd Gwalia,' 1826-1913)

Enw: John Thomas
Ffugenw: Pencerdd Gwalia
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1913
Rhiant: Catherine Thomas (née Jones)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 1 Mawrth 1826 ym Mhenybont-ar-Ogwr, Morgannwg, mab John a Catherine Thomas. Cymerai y tad ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a dysgodd y mab i ganu'r piccolo a'r delyn. Gwnaeth gynnydd cyflym fel telynor. Yn 12 oed enillodd y delyn deir-res yn eisteddfod Abergafenni, 1838. Yn 1840, trwy garedigrwydd yr iarlles Lovelace, unig ferch yr arglwydd Byron, anfonwyd ef am gwrs o addysg i'r Royal Academy of Music. Ei athro ar y delyn ydoedd J. B. Chatterton, ac, mewn cynghanedd, Cipriani Potter. Bu yn yr academi am chwe blynedd, ac ar ei ymadawiad gwnaed ef yn gymrawd, ac wedi hynny yn aelod anrhydeddus. Yn 1851 dechreuodd ei deithiau cerddorol ar y Cyfandir, a chynhaliodd gyngherddau yn llysoedd Ffrainc, yr Almaen, Rwsia, Awstria, a'r Eidal. Yn 1861, yn eisteddfod Aberdâr, urddwyd ef yn 'Bencerdd Gwalia.' Yn 1862 rhoddodd ei gyngerdd cyntaf o gerddoriaeth Gymraeg yn Llundain, a pharhawyd i'w cynnal am flynyddoedd. Yn 1871 penodwyd ef yn delynor i'r frenhines Victoria, ac yn athro ar y delyn yn y Royal Academy of Music. Yr un flwyddyn hefyd sefydlodd Undeb Corawl Cymreig Llundain a rhoddodd y côr 'Ysgoloriaeth Gymraeg John Thomas' yn yr academi. Yn 1882 penodwyd ef yn arholydd yr academy, ac yn athro ar y delyn yn y Royal College of Music a'r Guildhall School of Music. Gwnaed ef yn aelod o'r cymdeithasau canlynol: Societa di Santa Cecilia (Rhufain), Societa Filharmonica (Fflorens), The Philharmonic Society (Llundain), The Royal Society of Musicians (Llundain). Cyfansoddodd 'harp concerto,' symffonïau, 'overtures,' pedwarawd, operâu, caneuon, ac amrywiadau ar alawon Cymreig i'r delyn, y cantawdau 'Llewelyn' ar gyfer eisteddfod Aberdâr, 1863, a'r 'Bride of Neath Valley' i eisteddfod Caer, 1866. Bu ei ddarlith ar 'Cerddoriaeth Genedlaethol Cymru' yn boblogaidd, ac ysgrifennodd 'The Musical Notation of the Ancient Britons' i The Myvyrian Archaiology of Wales . Casglodd bedair cyfrol o alawon Cymreig, a golygodd Songs of Wales (J. B. Cramer), 1874. Bu farw 19 Mawrth 1913, a chladdwyd ef ym mynwent West Hampstead, Llundain. Y mae casgliad helaeth o bapurau 'Pencerdd Gwalia' yn Ll.G.C.

Brawd iddo oedd

THOMAS AP THOMAS (1829 - 1913), cerddor

Dysgodd ganu'r delyn yn ieuanc, a daeth fel ei frawd yn fyd-enwog fel telynor. Ymwelodd â phrif ganolfannau Ewrop, ac yn 1872 cymerodd ran yn un o gyngherddau enwog y Gewandhaus yn Leipzig. Cyfansoddodd gantawd, ' The Pilgrim's Progress,' ac amryw o ddarnau i'r delyn. Yn 1859 cyhoeddodd The History of the Harp. Yn 70 oed ymfudodd i U.D.A., ac wedi hynny i Ottawa, Canada, lle y bu farw yn 1913.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.