THOMAS, NATHANIEL (1818-1888), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Tabernacl, Caerdydd, ayb.

Enw: Nathaniel Thomas
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1888
Priod: Laura Emily Thomas (née Blagdon)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 13 Ebrill 1818 yn Clydach gerllaw Abertawe. Mynychai'r ysgol ddydd a chyrddau'r Sul yn Salem, Llangyfelach. Yn 7 oed aeth i weithio, am ychydig o amser mewn glofa, ac wedi hynny gyda badwyr ar gamlas. Symudodd gyda'r teulu i Nantyglo yn 1830, bedyddiwyd ef yn Hermon, a dechreuodd bregethu yn 1837. Aeth i athrofa Pontypŵl yn Ionawr 1842. Bu'n bugeilio Cilfowyr (1846-50), a Penuel, Caerfyrddin (1850-6), gan adeiladu capel newydd a phriodi ag eglwyswraig, Laura Emily Blagdon, a droesai'n Fedyddwraig. Treuliodd dros 30 mlynedd yn y Tabernacl, Caerdydd, a chodi'r capel presennol. Bu'n olygydd Y Bedyddiwr, yn arwr dirwest, addysg, a Rhyddfrydiaeth, ac yn noddwr y dall a'r anffodus. Ef oedd llywydd cyntaf Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yr oedd ar bwyllgorau Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr. Bu farw 2 Rhagfyr 1888.

LAURA EMILY THOMAS (née BLAGDON) (1822 - 1883), efengylydd

Gwraig Nathaniel Thomas. Ganed hi 1 Mawrth 1822 ym Maenordy Bodlington, Cheltenham. Amlygai ryddfrydigrwydd ysbryd a dawn efengylu'n fore. Cythruddwyd ei thad i'r fath raddau fel y gorfodwyd hi i ymadael â'i chartref. Ymunodd ei mam a'r plentyn ieuengaf a hi, a daethant i Gaerfyrddin. Mynasant eu bedyddio (Ionawr 1852) gan Nathaniel Thomas. Daeth Laura'n wraig i'r gweinidog. O 1856 hyd ei marw (1 Mai 1883) llafuriai'n ddygn yng Nghaerdydd, gyda'r gobeithlu, dirwest, yr ieuenctid, y gwragedd, sefydliad y mud a'r byddar, gan rannu traethodau, ymweled â'r dociau a'r carchar, helpu merched anffodus, etc. Oblegid lletya ohoni am noson Iddewes a ffoes oddi cartref i fod yn Gristion, mynnai tad honno gael iawn. Er i Lys y Frenhines ddyfarnu Laura Thomas yn ddieuog, cyrhaeddodd y draul tua £800.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.