Dywedir ei fod yn enedigol o Drelech, Sir Gaerfyrddin, ac iddo ddod i Sir Benfro ar ei briodas yn 1773; bedyddiwyd un o'r enw, mab i George Thomas, ym mhlwyf Trelech a'r Betws, 28 Awst 1739. Argyhoeddwyd ef yn 1760; priododd yn 1773, ac aeth i fyw at ei wraig yn agos i Gaerfachell, lle yr oedd achos gan y Methodistiaid; byddai'n arfer mynd i Abergwaun un Sul yn y mis i bregethu. Âi hefyd ar deithiau, e.e. pregethodd yn Llanllyfni (Arfon) yn 1792. Bu ef a'i wraig farw yr un pryd; ceir cofnod am gladdu Sampson Thomas a Margaret Thomas yn Whitchurch, Sir Benfro, 18 Ebrill 1807.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.