Ganwyd yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, 1824. Aeth yn ddyn ifanc i Fanceinion. Ymunodd yno â'r eglwys Annibynnol Gymraeg yn Gartside, a bu o wasanaeth mawr iddi ac i eglwysi'r cylch. Cymhellwyd ef i ddechrau pregethu, a phregethodd yn gynorthwyol hyd 1851, pryd yr odeiniwyd ef yn Cana, Llanddaniel, sir Fôn. Collodd ei iechyd yn y tymor byr y bu yno. Wedi iddo ymddeol a gorffwys am ysbaid, adnewyddwyd ei nerth a symudodd i fyw i'r Wyddgrug i wasnaethu eglwysi Annibynnol Soar a Jerusalem yn ymyl y dref. Ym Manceinion cyfathrachai â beirdd a llenorion cymdeithasau Cymraeg y ddinas ac arferai ei ddawn i lenydda a barddoni. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith a barddoniaeth i'r newyddiaduron a'r cylchgronau Cymraeg. Cyhoeddodd Y Trefniedydd Cyfreithiol, 1863, a Sylwadau ar Fodolaeth Enaid, 1883. Bu farw 11 Mai 1899 yn yr Wyddgrug.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.