THOMAS, WILLIAM ('Glanffrwd'; 1843 - 1890), clerigwr

Enw: William Thomas
Ffugenw: Glanffrwd
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1890
Priod: Lizzie Thomas (née Williams)
Priod: Mary Thomas (née Davies)
Rhiant: Jane Thomas (née Jones)
Rhiant: John Howell Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Henry Lewis

Ganwyd yn Ynys-y-bŵl, 17 Mawrth 1843, mab John Howell Thomas (mab William Thomas Howell, Blaennantyfedw) a Jane ferch Morgan Jones, Cwmclydach. Bu'n ddisgybl yn ysgol un Twmi Morgan. Gweithiodd yn llifiwr, fel ei dad, ac ar ôl ymroi i astudio bu'n ysgolfeistr am bedair neu bum mlynedd gartref ac yna yn Llwynypia. Yno dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ar aeth yn fugail Siloam, Gyfeillion. Priododd â Mary, ferch William Davies, Brynmefrith, Llanfabon. Wedi bod yn weinidog am ryw flwyddyn, ymunodd â'r Eglwys Wladol, ac ar ôl cwrs o addysg yn Rhydychen ac yng Ngholeg S. Aidan fe'i hordeiniwyd yn 1875 gan yr esgob Baring yn Durham, a'i apwyntio'n gurad yn West Cornforth. Ymhen tua dwy flynedd aeth yn gurad yn yr Wyddgrug, ac yna ymhen tua deunaw mis fe'i penodwyd yn ficer corawl yn Llanelwy, ac yn brif ficer yn 1888. Collodd ei wraig gyntaf ymhen rhyw chwe blynedd wedi iddo briodi, ac fe'i gadawyd ag un mab. Yn Llanelwy priododd â Lizzie Williams ('Llinos y De,' pencerddes), Castell Nedd, a bu iddynt dri o blant. Yn fuan wedi ei apwyntio'n brif ficer Llanelwy cafodd ergyd o'r parlys. Symudwyd ef o Lanelwy i dŷ ei frawd, Morgan Thomas, Pontypridd. Yn gynnar fore dydd Iau, 3 Hydref 1890, bu farw yno. Claddwyd ef ym mynwent Llanwynno, dydd Mawrth, 7 Hydref. Yr oedd yn gymeriad hoffus, ac enillodd barch ym mhob man y bu'n llafurio. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd a gweithgar. Cystadleuodd lawer, ac enillodd droeon â'i gyfansoddiadau barddonol. Yr oedd ar y blaen fel areithiwr a phregethwr, a hefyd fel arweinydd eisteddfodau. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Sisialon y Ffrwd, yn 1874, ac ysgrifennodd lawer ar faterion ieithyddol a hynafiaethol. Ceir erthygl ganddo ar ' Welsh Hymnology ' yn Cymm., vi, 1883, 53-67. Ond ei gampwaith yn ddiau yw'r gyfres erthyglau a ymddangosodd yn Tarian y Gweithiwr (Aberdâr), a gyhoeddwyd yn gyfrol dan yr enw Plwyf Llanwyno, yr Hen Amser, yr Hen Bobl, a'r Hen Droion, ym Mhontypridd, yn 1888. Ymddangosodd ail argraffiad, 1913, ac yn 1949 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru argraffiad diwygiedig, Llanwynno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.