TRAINER, JAMES (1863 - 1915?), chwaraewr pêl droed

Enw: James Trainer
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1915?
Rhiant: Mary Ann Trainer
Rhiant: James Trainer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: George Geoffrey Lerry

Ganwyd 7 Ionawr 1863 yn Brook Street, Wrecsam, mab James Trainer, a gadwai fusnes pobydd bara, a'i wraig Mary Ann Trainer. Dysgodd grefft gwneuthurwr cerbydau. Dechreuodd trwy chwarae yng nghlybiau pêl droed ysgolion, ymunodd â chlwb pêl droed y Wrexham Grosvenor yn 1878, a phan unwyd hwnnw a chlwb Wrecsam yn 1879 chwaraeai Trainer fel ' canolwr canol.' Perswadiwyd ef i ddysgu gofalu am y gôl a bu'n chwarae yn nhîm Wrecsam pan drechodd hwnnw dim y Druids yng ngornest ddiwethaf tymor 1882-3 am y Cwpan Cymreig ('the Welsh Cup final'). Yn ddiweddarach ymunodd â chlwb pêl droed Bolton Great Lever, a chlwb Bolton Wanderers, ac yn nes ymlaen â chlwb enwog Preston North End, pryd yr enillodd y clwb hwnnw gwpan y 'Football Association' ac y daethant hefyd yn bencampwyr y ' League ' yn 1888-9. Chwaraeodd Trainer am y tro cyntaf dros Preston ar 13 Awst 1887, a bu'n chwarae yn eu gornest ' League ' gyntaf y tymor ar 8 Medi 1888 yn Deepdale; yr oedd yn aelod cyson o dîm clwb Preston a chwaraeai yn y gornestau mwyaf pwysig. Methodd Trainer â chwarae yng ngornest ddiwethaf y clwb am y cwpan, a chymerwyd ei le gan Gymro arall - Dr. R. H. Mills Roberts (Bangor, y Corinthians, a Preston North End). Bu'n chwarae dros Gymru 20 o weithiau mewn gornestau rhyngwladol (chwe gwaith yn erbyn Lloegr, naw gwaith yn erbyn Sgotland, a phum gwaith yn erbyn Iwerddon).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.