Ganwyd 13 Ebrill 1771 yn Illogan, Cernyw, unig fab Richard Trevithick, peiriannydd a rheolwr gwaith mwyn Dolcoath, etc., a'i wraig Anne. Wedi cyfnod o addysg yn Camborne, daeth y mab yn beiriannydd celfydd a dangosodd fod ganddo allu neilltuol o ddyfeisgar, yn enwedig yng nghynllunio a gwella'r mathau gwahanol o beiriannau a ddefnyddid i gludo mwynau a draenio gweithydd mwyn. Erbyn Nadolig 1801 yr ydoedd wedi cynllunio y peiriant cyntaf a allai drafaelio ar y ffordd fawr yn ei nerth ei hun; ar y dydd cyn y Nadolig cludodd y peiriant ager hwn rai personau. Yn 1802 cymerth Trevithick batent ar ei ddyfais, a alwai ef yn welliant ar ddyfais James Watt. Gwnaeth beiriant arall yn 1802; trafaeliodd hwn 10 milltir drwy strydoedd Llundain yn 1803. Rhywbryd yn 1803 cyflogwyd y dyfeisydd yn beiriannydd gan Samuel Homfray, meistr gwaith haearn Penydarren, gerllaw Merthyr Tydfil, a chyn hir yr oedd yn brysur yn gwneuthur peiriant y gobeithid y medrid ei ddefnyddio ar y ffordd dram newydd a wnaethid i gludo haearn o weithydd Penydarren, Dowlais, a ' Plymouth,' i Abercynon. Os gellid ei ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw byddid yn osgoi gorfod defnyddio'r gamlas a oedd yn perthyn, gan mwyaf, i Richard Crawshay, y cydymgeisydd ym myd y diwydiant haearn. Erbyn 13 Chwefror 1804 yr oedd y peiriant yn barod, a phrofwyd ef ar y ffordd dram. Cafwyd arbrawf yng ngwydd y cyhoedd ar 21 Chwefror; gweler hanes yr arbrawf yn rhai o'r ffynonellau, yn enwedig y newyddiaduron, a enwir ar waelod yr erthygl hon. Ar 19 Mawrth 1934 dadorchuddiwyd ym Merthyr Tydfil gofadail yn coffáu'r amgylchiad. Bu Trevithick farw yn Dartford, 22 Ebrill 1833.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.