TUDOR, OWEN DAVIES (1818 - 1887), awdur llyfrau ar y gyfraith

Enw: Owen Davies Tudor
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1887
Priod: Sarah Maria Tudor (née James)
Rhiant: Emma Tudor (née Jones)
Rhiant: Robert Owen Tudor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur llyfrau ar y gyfraith
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 19 Gorffennaf 1818 yn Lower Garth, Cegidfa, mab hynaf Robert Owen Tudor, capten yn y Royal Montgomeryshire Militia, a'i wraig Emma, merch John Lloyd Jones, Maesmawr, Sir Drefaldwyn. Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig. Fe'i derbyniwyd i'r Middle Temple fis Ebrill 1839, a daeth yn fargyfreithiwr ym Mehefin 1842. Bu'n dilyn ei alwedigaeth yn Llundain am flynyddoedd lawer ac yna cafodd ei ddewis yn gyd-gofrestrydd Llys y Methdaliadau yn Birmingham; ymddeolodd yn 1872. Yr oedd yn adnabyddus fel awdur llyfrau ar y gyfraith - A Treatise on the Law of Charitable Trusts, Leading Cases in the Law of Real Property and Conveyancing, a Leading Cases in Mercantile and Maritime Law. Priododd, fis Medi 1849, â Sarah Maria, ferch David James, ficer Llanwnog, Sir Drefaldwyn, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw 14 Tachwedd 1887, a chladdwyd ef yn y Brompton Cemetery, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.