TURBERVILLE, EDWARD (c. 1648 - 1681), cam-dyst ('informer')

Enw: Edward Turberville
Dyddiad geni: c. 1648
Dyddiad marw: 1681
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cam-dyst ('informer')
Maes gweithgaredd: Crefydd; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Henry John Randall

Dywedir fod ei dad yn hanfod o'r Sger, gerllaw Porthcawl, Sir Forgannwg, eithr nid ef bioedd y stad, gan mai teulu Loughor oedd perchenogion honno y pryd hwnnw. Rhydd y D.N.B. fanylion gweddol lawn am ei yrfa anghlodforus. Daeth i'r amlwg mewn modd neilltuol ym mlynyddoedd y 'Popish Plot'; ar wahân i'w ddechreuad nid oedd ond ychydig gysylltiad rhyngddo a Chymru. Bu farw 18 Rhagfyr 1681.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.