VAUGHAN, EDWARD (bu farw 1522), esgob Tyddewi

Enw: Edward Vaughan
Dyddiad marw: 1522
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glanmor Williams

Brodor o Ddeheubarth, efallai, oedd Vaughan, a addysgwyd yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn LL.D. Penodwyd ef i eglwys S. Mathew, Friday Street, Llundain, 21 Mehefin 1487, a bu'n ddiweddarach yn ficer Islington, yn brebendari Reculverland, 15 Ebrill 1493, a Harleston, 16 Tachwedd 1499, yn eglwys S. Paul, yn ogystal â bod yn drysorydd yr eglwys gadeiriol honno, ac felly'n brebendari Bromesbury. Wedi ei benodi'n archddiacon Lewes yn 1509, cysegrwyd ef hefyd yn esgob Tyddewi, 22 Gorffennaf 1509, ar sail darpariaeth a wnaed gan y pab, 13 Ionawr 1509. Tra'n esgob ymgymerth Vaughan â chynlluniau pensaernïol gwych yn ei eglwys gadeiriol ac ym mhlasau'r esgob yn Llantyfai a Llawhaden. Bu farw fis Tachwedd 1522 a chladdwyd ef yn Nhyddewi yng nghapel hardd y Drindod Santaidd a godasid ganddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.