VAUGHAN, ARTHUR OWEN ('Owen Rhoscomyl '; 1863? - 1919), anturwr ac awdur

Enw: Arthur Owen Vaughan
Ffugenw: Owen Rhoscomyl
Dyddiad geni: 1863?
Dyddiad marw: 1919
Priod: Catherine Lois Vaughan (née de Geere)
Rhiant: Jane Ann Mills
Rhiant: Robert Mills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: anturwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Teithio
Awdur: William Llewelyn Davies

Enw mabwysiedig oedd hwn - ei enw bedydd oedd Robert Scourfield, mab Robert Mills a Jane Ann, merch Joseph Scourfield. Ganwyd yn Southport, 6 Medi 1863. Claddwyd ei dad o fewn mis wedyn. Symudodd y fam i Fanceinion a phriodi eilwaith. Bu'r ail ŵr, Luke Etchells farw yn 1869. Magwyd y bachgen gan ei nain a oedd yn wreiddiol o Dre-meirchion. Owen oedd ei henw hi arno. Ef ei hun a fabwysiadodd yr enw Arthur Owen Vaughan a llunio'r ffugenw ' Owen Rhoscomyl ' allan o Rho[bert] Sco[urfield] Myl[ne] gan ddefnyddio'r ffurf Saesneg Canol am Mill.

Dihangodd i'r môr yn fachgen (o Borthmadog), a chrwydrodd y byd. Yn Rhyfel De Affrig yr oedd ganddo lu o wŷr meirch, y 14th Northumberland Fusiliers,' ac enillodd gryn glod; ac yn rhyfel 1914-9 enillodd radd cyrnol, a'r D.S.O.

Yr oedd yn awdur pedair nofel: The Jewel of Ynys Galon (1895), Battlement and Tower (1896), The White Rose of Arno (1897.) a Old Fireproof (1906), a chyda'r arglwydd Howard de Walden ysgrifennodd ddrama, The Children of Don, 1912. Cyhoeddodd hefyd yn 1905 Flame bearers of Welsh History , ac yn 1913 lyfr mwy uchelgeisiol, The Matter of Wales, ond ni chafodd y naill na'r llall dderbyniad da o gwbl gan arbenigwyr yn hanes cynnar Cymru.

Priododd Catherine Lois (Katherine Louisa) de Geere ar lan yr afon Vaal tua 21 Rhagfyr 1900. Collodd y dystysgrif briodas pan gymerwyd ef i ysbyty. Bu hi farw ym Mhenarth yn 1927. Bu ef farw 15 Hydref 1919 mewn ysbyty preifat yn Llundain, yn 56 oed yn ôl Western Mail, 20 Hydref 1919. Fe'i claddwyd ym mynwent Maeshyfryd, Ffordd Diserth, Y Rhyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.