Ganwyd yn Wrecsam, 1764, mab John Waithman (o Warton, Swydd Gaerhirfryn), saer coed yn gweithio yn ffwrnais Bersham, Wrecsam, a'i wraig Mary (Roberts). Bu'n gwasnaethu mewn siop gwerthwr nwyddau lliain yn Llundain; tua 1786 agorodd ei siop ei hun, ar y cyntaf yn Fleet Market ac yna yr 103 a 104 Fleet Street. Priododd, 14 Gorffennaf 1787, â'i gyfnither, Mary Davis. Llwyddodd i ennill cyfoeth mawr. O dan ddylanwad y chwyldro yn Ffrainc daeth i weithio'n gryf dros ddiwygiad radicalaidd. Daeth yn aelod seneddol dros ddinas Llundain yn 1818 ac enillodd y sedd eilwaith yn 1826, gan ei chadw hyd ei farw. Bu'n siryf Llundain a Middlesex yn 1820 ac yn arglwydd faer yn 1823. Bu farw 6 Chwefror 1833 yn Woburn Place, a chladdwyd ef yn eglwys S. Brides, Fleet Street.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.