Yn perthyn i dalaith ('custody') Worcester. Nid oes dim yn wybyddus am ei fywyd cynnar, eithr rywbryd cyn 1260 yr oedd yn chweched ' regent-master ' y Fratres Minores yn Rhydychen lle yr oedd eisoes wedi cymryd ei B.D.; yn ddiweddarach yr oedd yn ddarlithydd ac yn ddoethur mewn diwinyddiaeth (D.D.) ym Mharis lle yr oedd, fe ymddengys, yn ' regent ' yng nghanolfan y Ffransisiaid yn 1282. Ym mis Hydref yr un flwyddyn defnyddiwyd ef gan yr archesgob Peckham, Caergaint, fel cyfryngwr rhwng y brenin Edward I a Llywelyn ap Gruffydd, y tywysog Cymreig 'gwrthryfelgar.' Y cyfeiriad diwethaf ato ydyw hwnnw sydd yn mynegi ei fod yn un o bum doethur a ddewiswyd i archwilio athrawiaethau Peter John Olivi (Pietro di Giovanni Olivi) yn 1283. Wedi ei farw ym Mharis, lle hefyd y claddwyd ef, anrhydeddwyd ef â'r teitl ' Arbor Vitae ' ('Pren y Bywyd').
Ysgrifennodd Iohannes Gallensis lawer o lyfrau, er nad ei eiddo ef ydyw'r cwbl a dadogir arno. Ymysg ei ysgrifeniadau pwysicaf y mae: (a) ' Breviloquium de sapientia sanctorum,' ymdrafodaeth fer ar ddoethineb Gristionogol, a ddilynir yn rhai o'n testynau printiedig gan ' Breviloquium de virtutibus antiquorum principum et philosophorum,' testyn sydd yn defnyddio cofiannau gwyr mawr yr hen fyd i ddangos y pedair prif rhinwedd; (b) 'Summa collationum ad omne genus hominum,' neu 'Communiloquium,' traethawd maith yn saith o rannau ac yn llawn o hyfforddiadau i'r pregethwr sut i annerch pob math ar ddynion; (c) ' Compendiloquium de vitis illustrium philosophorum et de dictis moralibus eorundem,' traethawd mewn deg o rannau, wedi ei amcanu i roddi esiamplau calonogol i Gristionogion allan o fywydau a dywediadau hen athronwyr. Ymysg gweithiau eraill y mae ' Summa de Paenitentia,' ' Summa Iustitiae,' ' Moniloquium ' (ar bechodau a rhinweddau a'u gwobrwyon), ' Legiloquium ' (ar y Deg Gorchymyn), rhai pregethau, ac, efallai, rai esboniadau. Dywedir hefyd iddo gychwyn y ' Manipulus Florum ' neu ' Flores Doctorum ' poblogaidd a gwplawyd gan Thomas of Ireland. Cynulliadau ydyw'r llawlyfrau hyn gan mwyaf. Nid ydynt yn arddangos dyfnder na gwreiddioldeb meddwl nac unrhyw ddiddordeb mewn metaffyseg, mathemateg, na gwyddoniaeth naturiol; eithr y maent yn profi i'r awdur ddarllen yn helaeth ac yn dangos inni gymaint o bwysigrwydd a roddid ganddo ar athrawiaethu mewn modd ymarferol. Y mae'n dyfynnu o gylch eang o awduron Lladin - o'r cyfnod clasurol, o oes y tadau eglwysig, a'r Canol Oesoedd - gan gynnwys cyfieithiadau Lladin o weithiau'r athronwyr Arabaidd Averroes ac Avicenna, ac eraill; eithr mewn cyfieithiadau yn unig y gwyddai am waith awduron Groegaidd. Yr awdur 'modern' a hoffai fwyaf oedd John o Salisbury. Gydag ychydig iawn o eithriadau y mae Johannes Gallensis yn ei ddifodi ei hun yn gyfan gwbl, a chan na feddai ar safbwynt beirniadol tuag at yr hyn y mae yn ei ysgrifennu y mae yn aml yn euog o amryw wrthddywediadau a ffolinebau. Prin hefyd ydyw ei gyfeiriadau at y byd a oedd yn gyfoes ag ef. Bu ei weithiau yn boblogaidd, a hynny trwy haeddiant, am lawer canrif, ar gyfrif y cyflawnder o 'exempla' (esiamplau) a oedd ynddynt, eu moesoldeb ymarferol diffuant, a'r ysbryd goddefgar a ddangosid ynddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.