Ganwyd yn Derby, fis Chwefror 1856, a bu farw yno 18 Mehefin 1922. Cychwynnodd yn fferyllydd, ond yn 1893 penodwyd ef yn geidwad amgueddfa tref Caerdydd. Ymroes i gasglu yno bethau o ddiddordeb neilltuol Gymreig, ac mewn canlyniad newidiwyd enw'r amgueddfa i ' The Welsh Museum of Natural History, Arts and Antiquities.' Yn 1912 pan ddaeth amgueddfa Caerdydd yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru penodwyd Ward yn geidwad archaeoleg yn honno. Bu'n cloddio mewn mwy nag un llecyn o ddiddordeb hynafiaethol megis gwersyll Rhufeinig Gelligaer a chromlech S. Nicholas ym Morgannwg. Cyhoeddodd ddau lyfr Romano-British Buildings and Earthworks, 1911, a The Roman Era in Britain, 1911, a chyfrannodd res hir o bapurau pwysig ar hynafiaethau a phynciau cyffelyb i Trans. Cardiff Nat. Soc., Archæologia Cambrensis, Arch. Jnl., ac Archaeologia. Yn 1918 cafodd y radd o M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.