WATKYNS, ROWLAND (c.1614 - 1664), clerigwr ac awdur

Enw: Rowland Watkyns
Dyddiad geni: c.1614
Dyddiad marw: 1664
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Longtown, Swydd Henffordd, mewn rhan o'r sir honno a oedd ar un adeg yn esgobaeth Tyddewi. Sefydlwyd ef yn ficer Llanfrynach, sir Frycheiniog, yn 1635, cymerwyd ei fywoliaeth oddi arno yn 1648, eithr cafodd hi'n ôl wedi'r Adferiad. Bu farw yn 1664.

Hyd y gwyddys, un llyfr yn unig a gyhoeddodd, sef Flamma sine Fumo: or Poems without Fictions (London, 1662). Ceir ynddo ganu, yn Lladin a Saesneg, i lawer o gyfoeswyr y bardd yn Ne Cymru a'r gororau, yn arbennig i aelodau rhai o'r teuluoedd tiriog. Y mae'n amlwg ei fod yn briod gan iddo ganu ' An epitaph upon my beloved daughter Susanna Watkyns, who was born upon Ash Wednesday, 1655, and dyed the 5 of August, 1658.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.