Cynhwysir ei enw ymhlith telynorion talaith Aberffraw yn rhestr Peniarth MS 147 (203), a graddiodd yn bencerdd (ac athro Peniarth MS 144 (267)) yn eisteddfod Caerwys, 1568. Yn llawysgrif plas Moelyrch (Peniarth MS 103 (66)) ceir nodyn yn ei law ef ei hun yn dweud iddo glera yno 'pan oedd y Nadolig ar ddydd Gwener' yng nghwmni Huw Dai, Robert ap Siôn Llwyd, Wiliam Penfro, Wiliam Goch Grythor, Wmffre Grythor, Morus Grythor, Tomas Grythor o Gegidfa, a Hywel Gethin, telynorion a chrythorion. (Yr oedd y Nadolig ar ddydd Gwener yn 1551, 1556, a 1562.) Canodd englynion i Lewis Gwynn, cwnstabl Trefesgob (bu farw 1552) (Peniarth MS 114 (109)), a Gruffudd Dwnn (Llanstephan MS 433 (881)). Ceir copi o'i gerddlyfr yn llaw Robert ap Huw, Bodwigan, Môn (B.M. Add. MS. 14905). Yn ychwanegol at y cyfeiriadau uchod gweler Bodewryd MS 2B (313); Cardiff MS. 7 (252), B.M. Add. MS. 14998 (32); NLW MS 5247C .
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.