WILKINSON, JOHN (1728-1808), 'tad y fasnach haearn'.

Enw: John Wilkinson
Dyddiad geni: 1728
Dyddiad marw: 1808
Rhiant: Isaac Wilkinson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'tad y fasnach haearn'
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn Clifton, Cumberland, mab hynaf ISAAC WILKINSON, gweithiwr mewn gwaith haearn a ddaeth ei hunan yn feistr gwaith bychan. Cafodd ei addysg yn academi Anghydffurfiol Caleb Rotheram yn Kendal. Ar ôl gweithio gyda'i dad (o c. 1748 ymlaen) aeth i weithio mewn gweithydd haearn yng nghanolbarth Lloegr; yno sefydlodd ffwrneisiau drosto'i hun gan ddefnyddio glo ynddynt (yn llwyddiannus) yn lle golosg. Yn 1753 cymerth Isaac Wilkinson brydles ar ffwrnais Bersham (Wrecsam), lle y defnyddiasid glo am tuag 20 mlynedd eithr nid gyda llawer o lwyddiant, ac ymsefydlodd gyda'i wraig a'r plant iau yn Plas Grono, hen gartref teulu Yale ar stad Erthig. Cydweithiodd John yn yr antur eithr parhaodd i ofalu am ei fuddiannau yng nghanolbarth Lloegr. Defnyddiai'r ffyrm garreg haearn o Lwyn Einion a glo o'r Ponciau, a gwnâi bob math o nwyddau haearn - o ynnau mawr i lawr hyd at bethau llai. Pan fethodd Isaac (c. 1761) ffurfiwyd cwmni newydd ('The New Bersham Company') gyda John yn brif arweinydd ac, yn nes ymlaen, yn unig berchennog. Ymhen ychydig flynyddoedd yr oeddid yn gwneuthur offer rhyfel dros y Llywodraeth ar raddfa helaeth; cymerth John Wilkinson 'batent' ar ddull o dyllu gynnau mawr (1774) gyda'r canlyniad fod yr archebion o wledydd tramor (a ddechreuasai gyda Rwsia a Thwrci yn ystod rhyfel 1768-74, a Ffrainc yn 1775) yn cynyddu yn fawr; golygai hyn hefyd mai efe yn unig, o'r bron, a allai dyllu sylindrau ar gyfer peiriannau ager Boulton a Watt am yr 20 mlynedd cyntaf ar ôl iddo gael y 'patent.' Defnyddiai rai o'r peiriannau hyn i gymryd lle grym dwr - gofalasai eisoes, trwy brynu'r rhan fwyaf o'r melinau a oedd gerllaw i'w waith, sef melinau a gâi ddwr o afon Clywedog, fod at ei wasanaeth gyflawnder o rym dwr, ac achwynwyd yn ei erbyn gan rai a ddaliai ei fod yn cam-ddefnyddio'r peiriannau hyn gan eu defnyddio at ei amcanion ei hun a'u gwerthu. O c. 1770 yr oedd ganddo ddiddordebau diwydiannol a sefydliadau yn Ffrainc a Prwsia; yn ei wlad ei hun yr oedd yn llwyddo i gael ei ddefnyddiau crai trwy brynu llawer o diroedd ag ynddynt lo a charreg haearn o dan yr wyneb; a sicrhai werthiant i'w gynhyrchion trwy brynu cyfran-ddaliadau mewn mwynfeydd a gweithydd eraill a ddygid ymlaen gan ei gwsmeriaid. Cymerodd yr hen efail (neu ffwrnais) yn Abenbury (i lawr yr afon o Bersham) ar rent hyd nes y cafodd amser i adeiladu ei felinau hollti a rhowlio ei hun; yr oedd yn gyfran-ddaliwr yng nghamlas Ellesmere - bu'n gobeithio (eithr yn ofer) y dygid y gamlas honno heibio i'w weithydd ef; a bu'n ceisio, eithr yn gymharol ofer, ailagor gweithydd plwm y Mwynglawdd (Minera), ac eraill yn ymyl yr Wyddgrug. Yn 1792 prynodd stad Brymbo Hall; yno adeiladodd ffwrneisiau a gosod yn ei adeiladau y peirianwaith mwyaf diweddar a defnyddio'r dulliau mwyaf newydd - y cwbl heb bartneriaid; bu hefyd yn agor pyllau glo ar raddfa helaeth; amaethai'r tir hefyd yn ôl dulliau newydd, gan ddefnyddio'r peiriant dyrnu yd cyntaf yng Ngogledd Cymru a weithid gan nerth ager. Bu'n siryf sir Ddinbych yn 1799 ond yn fuan wedi hynny gadawodd ei dy yn Wrecsam, gan fyw yng nghanolbarth Lloegr gan mwyaf, a marw yno ar 14 Gorffennaf 1808.

Dywedwyd am Wilkinson mai ' efe oedd y cyntaf i sylweddoli ac i gaffael y cywirdeb manwl yr oedd yn rhaid wrtho pan oeddid yn gwneuthur peiriannau modern ' (Mantoux, Industrial Revolution). Yr oedd yn radical yn ei wleidyddiaeth, a chyhuddwyd ef (eithr nis cafwyd yn euog) o gyflenwi'r Ffrancwyr â gynnau mawr yn ystod y rhyfel ag America a rhyfeloedd eraill. Achwynwyd wrth yr arglwydd Kenyon gan gymdogion Wilkinson a oedd yn Dorïaid fod y tocynnau gini ('guinea tokens') a wnaeth, ac a ddefnyddid ganddo yn 1792 (ynghyd â thocynnau lledr, copr, ac arian a ddefnyddiai pan oedd arian bath yn brin yn 1787-93), yn cael eu defnyddio fel moddion i wasgar syniadau radicalaidd. Yr oedd yn ormesol, yn unbenaethol, ac yn ddiegwyddor, ac eto fe'i cyfrifid yn feistr-gwaith da; bu'n garedig iawn tuag at Joseph Priestley, gwr ei chwaer, yn enwedig wedi i hwnnw gael colledion oblegid y cythrwfl yn Birmingham yn 1791. Wedi ei farw afradwyd ei ffortiwn yn yr ymgyfreithio a fu rhwng ei ordderch a'i phlant â'i nai Thomas Jones (Wilkinson). Yr oedd gwaith Bersham yn adfeilion bron ymhen 20 mlynedd; prynwyd gweithydd Brymbo allan o Lys y Siawnsri ac ailgychwynnwyd hwynt gan gwmni (cyfyngedig) yn 1841. Y mae darlun o John Wilkinson ar y pared yn neuadd y dref, Wolverhampton.

Cafodd ei frawd ieuengaf, WILLIAM WILKINSON (bu farw 1808), ei addysg o dan Joseph Priestley yn Nantwich. Aeth i Bersham gyda'i dad yn 1753; bu'n gynrychiolydd tramor i'r New Bersham Co. hyd 1787, gan helpu i ddiweddareiddio gwaith Le Creusot a gweithydd offer rhyfel eraill yn Ffrainc (c. 1776-81) - gyda'r bwriad, meddai'r mân siarad lleol, o gynorthwyo Ffrainc i ryddhau America; yr oedd hefyd yn gyfran-ddaliwr yng ngwaith dwr Paris, gwaith yr anfonai ei frawd John bibellau dwr o haearn-bwrw iddo. Wedi iddo ddychwelyd bu cweryl ffyrnig rhyngddo a'i frawd (oblegid y cynllun yn Brymbo, y mae'n debyg) ac achosodd hyn i waith Bersham gael ei gau, dros dymor, trwy orchymyn llys cyfraith (1795), i'r gweithwyr diwaith symud o'r ardal neu fyned yn filwyr, a chadw William allan o'r gwaith pan ailgychwynnwyd ef. Ymneilltuodd i Blas Grono; yno, er gwaethaf ei syniadau anuniongred a'i ymlyniad wrth yr achos Presbyteraidd lleol, yr oedd yn ymddiriedolwr iddo o'r flwyddyn 1797, yr oedd ar delerau da â'r gwyr tiriog yr oedd yn gymydog iddynt. Priododd ei ferch â mab Matthew Boulton. Bu farw ym mis Mawrth 1808 a chladdwyd ef yng nghladdfa'r Anghydffurfwyr yn Wrecsam, lle na ellir mwyach wybod ymhle y mae ei feddrod.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.