WILLIAMS, JOHN CEULANYDD ('Ceulanydd', 1847? - 1899), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llenor

Enw: John Ceulanydd Williams
Ffugenw: Ceulanydd
Dyddiad geni: 1847?
Dyddiad marw: 1899
Priod: Ann Williams (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn Nhal-y-bont Ceredigion. Dysgodd grefft gwehydd yn Nhal-y-bont a bu'n gweithio am beth amser yng ngweithiau mwyn yr ardal, ond anogwyd ef i bregethu gan ei fam-eglwys, ac yn gynnar yn 1868, wedi cwrs o addysg yn y Tywyn, a thrachefn yn y 'Graig House Academy' yn Abertawe, fe'i derbyniwyd i goleg yr enwad yn Llangollen. Ordeiniwyd ef yn Ninbych 16 Ionawr 1871, a symudodd oddi yno i Amlwch (1875?), Tal-y-sarn, Caernarfon (1879), Tabernacl, Merthyr Tydfil (1880), ac yn olaf, yn 1882, i Salem a Chaersalem, Maesteg, lle y bu farw 11 Medi 1899. Priododd yn ystod ei weinidogaeth yn Ninbych ag Ann Jones, merch David Jones, diacon yn yr eglwys, a goruchwyliwr rheilffordd L. ac N.W. o Caerlleon i Gaergybi. Ganed iddynt naw o blant.

Llenydda oedd diddordeb pennaf 'Ceulanydd.' Cyhoeddodd Y Ddau Foneddwr. Bywgraphiadau o'r diweddar Robert Foulkes, Ysw., Dinbych a'r diweddar John Palmer, Ysw., Amlwch (d.d.), a chyfrol dan y teitl Athrylith Ceiriog Hughes , 1892?, a thraddododd ddarlith ar emynyddiaeth Cymru yng nghyfarfodydd Undeb y Bedyddwyr yn Aberteifi yn 1888. Ond fel bardd yn sicr yr adwaenid ef orau yn ei ddydd. Yr oedd yn aelod o orsedd y beirdd, bu'n feirniad barddoniaeth yn yr eisteddfod genedlaethol fwy nag unwaith, ac enillodd amryw o brif wobrwyon ei gyfnod, e.e. yng nghystadleuaeth y gadair yn eisteddfod genedlaethol Pontypridd (1893) ar 'Pwlpud Cymru' (cyhoeddwyd yn ddiweddarach, d.d.), yn eisteddfod Llandudno (1888) am awdl-bryddest ar 'Ac yr oedd hi yn nos' (cyhoeddwyd 1888), ac yn eisteddfod Awstralia (1893) am bryddest ar 'Mr. Spurgeon' (cyhoeddwyd 1893).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.