WILLIAMS, DAVID CHRISTMAS (1871 - 1926), cerddor

Enw: David Christmas Williams
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1926
Rhiant: Elizabeth Williams (née Evans)
Rhiant: Gruffydd Christmas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 12 Medi 1871 yn Llanwrtyd, sir Frycheiniog, mab Gruffydd Christmas ac Elizabeth Evans. Yr oedd y fam yn gantores dda, ac etifeddodd y mab y dalent gerddorol, ac erbyn bod yn 14 oed yr oedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau cerddorol. Yn 17 oed aeth i Gaerdydd at Joseph Parry am gwrs o addysg gerddorol. Yn 1890 penodwyd ef yn athro cynorthwyol i Parry yng Ngholeg Cerddorol y De, ac yn organydd a chorfeistr ym Mhenarth. Daeth i sylw yn fuan fel cyfansoddwr. Enillodd wobr am gyfansoddi rhangan, ‘O agor fy llygad,’ allan o 27 o ymgeiswyr, a £20 a thlws am y gantawd ‘Traeth Lafan,’ yn eisteddfod genedlaethol Rhyl, 1892. Perfformiwyd gwaith byr o'i eiddo, ‘Brwydr yr Hafren,’ yn eisteddfod genedlaethol Casnewydd, a chyfansoddodd waith cerddorol i'w berfformio yn eisteddfod genedlaethol Llandudno, 1895. Bu ei ‘Destruction of Pompeii,’ ‘Homeward Bound,’ and ‘Charge of the Light Brigade’ yn ddarnau praw yn yr eisteddfod genedlaethol. Cyfansoddodd lawer o anthemau a thonau. Yn 1895 ymsefydlodd yn athro cerdd ym Merthyr Tydfil, a phenodwyd ef yn organydd capel Hope yn 1898. Yn 1905 sefydlodd Gymdeithas Offerynnol Gogledd Morgannwg a wnaeth wasanaeth gwerthfawr trwy ddwyn gweithiau offerynnol y meistri i'r werin. Yn 1912 enillodd y radd o faglor cerddoriaeth yng Nghaergrawnt, ac, yn ddiweddarach, radd doethur mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Dulyn. Yn 1913 penodwyd ef yn arweinydd anrhydeddus Cymdeithas Gorawl Merthyr, ac am flynyddoedd perfformiwyd y prif gyfanweithiau gan y côr. Bu farw 21 Mawrth 1926, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y plwyf, Llanwrtyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/