Ganwyd c. 1793 yng Nglandŵr, gerllaw Abertawe. Daeth yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y Mynydd-bach. Ymfudodd i Mexico, gan adael Hwlffordd, Sir Benfro, ar 12 Mawrth 1825 a chyrraedd Vera Cruz ar 13 Mai; dysgodd beth Sbaeneg yn ystod y fordaith. Cyhoeddodd Llythyrau Cymro yn Mexico at ei Gyfeillion yn Nglandwr wrth Abertawy … (Abertawy, 1827); cyhoeddwyd dwy ran allan o dair a arfaethid a chafwyd tri argraffiad yn yr un flwyddyn. Yn 1833 aeth yr awdur i U.D.A., gan ymsefydlu yn Allentown, Pennsylvania, a gweithio yn y Craneville Iron Works. Bu farw Mai 1845.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.