Ganwyd 29 Rhagfyr 1818 yn Blaenafon, Mynwy; hanoedd ei dad o ardal y Mynydd-bach, Abertawe; yr oedd i'w fam gysylltiadau Ffrengig. Dechreuodd bregethu yn 1843. Cafodd alwad i fod yn weinidog Dinas Mawddwy a'r cylch ac urddwyd ef yno 27 Ebrill 1848. Bu farw 8 Ebrill 1880 a chladdwyd ef ym mynwent Dinas Mawddwy. Cyhoeddodd Cofiant a Phregethau … D. Milton Davies, (Llanfyllin, 1871). Ef oedd ysgrifennydd Coleg Annibynnol y Bala o 1869 i 1876, y cyfnod mwyaf cythryblus yn ei hanes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.