Ganwyd yn Nolwyddelan yn 1824, yn fab i Griffith ac Elin Williams, symudodd y teulu'n fuan i Flaenau Ffestiniog. Heb unrhyw addysg ond addysg yr ysgol Sul, aeth i weithio yn y chwarel.
Tyfodd yn areithydd cymeradwy ar ddirwest; dechreuodd bregethu (1848), ac o 1849 hyd 1853 bu yng Ngholeg y Bala. Aeth wedyn i gadw ysgol ddyddiol yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ond yn 1855 symudodd i Dalsarnau i briodi (cafodd deulu niferus) ac i gadw siop. Ordeiniwyd ef yn 1857.
Cofir ef yn bennaf am ei ffraethineb dihysbydd. Sgrifennai hefyd yn ddiddorol iawn yn y cyfnodolion, a chyhoeddodd dri llyfr: Cofiant y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn , 1873; Yr Hynod William Ellis, Maentwrog , 1875 (hanes hen flaenor); a Bwthyn fy Nhaid Oliver, 1880, ail arg. 1904. Bu farw 23 Hydref 1881, a chladdwyd ym mynwent capel y Methodistiaid Calfinaidd, Dyffryn Ardudwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.