Ganed yn Rhosgadfan, Arfon, tua 1878; mab i chwarelwr oedd, a bu yntau yn y chwarel am ysbaid pan yn fachgen. Wedyn bu yn ysgol breifat J. Lewis Jones yng Nghaernarfon ac ar ôl hynny yn glerc yn swyddfa'r Genedl. Bu yn Lloegr am rai blynyddoedd yn dilyn gwahanol orchwylion, ond dychwelodd i Gaernarfon tua dechrau'r ganrif i fod yn is-olygydd yn swyddfa'r Herald Cymraeg. Yn 1913 aeth i Aberystwyth i olygu 'r Aberystwyth Observer, ac oddi yno yn 1915 i Lanelli, i olygu papur lleol. Yn ystod y rhyfel mawr cyntaf bu'n gweithio mewn ffatri cad-ddarpar yn Burry Port; amharwyd ei iechyd a dychwelodd i Aberystwyth, lle bu ynglŷn â staff y Cambrian News. Ond gwaethygu a wnaeth ei iechyd a bu farw yn ysbyty Tregaron 26 Gorffennaf 1919. Yn ei storiau byrion y gwnaeth ei brif waith, yn enwedig ei storiau am fywyd y chwarelwyr, y bobl yr oedd yn eu hadnabod yn drwyadl; ac yr oedd yn ddiamau yn un o arloeswyr pwysicaf y stori fer yng Nghymru. Astudiodd grefft y stori fer yn ofalus a rhoddodd ei holl fryd ar ymberffeithio ynddi. Cyhoeddwyd dau lyfr o'i storïau yn ystod ei fywyd; Straeon y Chwarel (heb ddyddiad), a Tair Stori Fer (buddugol yn eisteddfod genedlaethol Bangor 1915) yn 1916. Yn 1932 cyhoeddwyd detholiad, Storïau gan Richard Hughes Williams, gan Hughes a'i Fab.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.