Trydydd mab Isaac Lloyd Williams (1771 - 1846), bargyfreithiwr (a oedd yn fab i'r Parch. Isaac Williams, offeiriad Llanrhystud, Sir Aberteifi), ac Anne, merch hynaf a chyd-etifeddes Matthew Davies o Gwmcynfelyn ger Aberystwyth. Yno y ganwyd ef, 12 Rhagfyr 1802, eithr gan fod ei dad yn dilyn ei alwedigaeth yn Llundain, treuliodd yntau ei flynyddoedd cynnar yn Southampton Street, Bloomsbury Square, Llundain. Yn 1817 aeth i ysgol Harrow, lle y daeth i'r amlwg ohewydd ei ddawn i ysgrifennu prydyddiaeth Ladin. Ar 3 Mehefin 1822 ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, ac ar ei wyliau yng Nghwmcynfelyn yr haf hwnnw cyfarfu â John Keble. Eithr ni ddaethant yn gyfeillion mynwesol hyd onid enillodd Isaac Williams wobr y canghellor y flwyddyn ddilynol am gerdd Ladin ar y testun ' Ars Geologica.' Gorweithiodd yn y coleg a thorrodd ei iechyd i lawr fel y bu'n rhaid arno ymwrthod â'r syniad o geisio anrhydedd, gan fodloni ar gymryd gradd semi B.A., 25 Mai 1826. Graddiodd yn M.A. yn 1831, a B.D. yn 1839. Ym mis Rhagfyr 1829 ordeiniwyd ef yn ddiacon, a thrwyddedwyd ef yn gurad Windrush-cum-Sherborne, sir Gaerloyw. Etholwyd ef yn gymrawd o Goleg y Drindod ar 30 Mai 1831, a'r flwyddyn ddilynol aeth yn ôl i'w hen goleg fel darlithydd mewn athroniaeth. Yn 1833 gwnaed ef yn ddeon y coleg. Bu'n ddarlithydd mewn rhethreg rhwng 1834 a 1840, ac yn is-lywydd y coleg yn 1841-2. Yn fuan wedi iddo ddychwelyd i Goleg y Drindod aeth yn gurad i John Henry Newman yn eglwys y Santes Fair. Tyfodd cyfeillgarwch daer rhyngddynt, a phan ddaeth Mudiad Rhydychen yn destun dadl o fewn i'r Eglwys, fe brofodd Isaac Williams ei hun yn un o'i arweinwyr mawr. Daeth i fri arbennig ac enillodd lawer o elynion pan gyhoeddodd y tract enwog Reserve in communicating Religious Knowledge (rhif 80 yn y gyfres Tracts for the Times). Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth, a chyfieithodd rai cerddi gogyfer â chyfrol yn dwyn y teitl Lyra Apostolica (Derby, 1836) a gyhoeddodd gyda Froude, Newman, a Keble. Pan ymddeolodd yr olaf o fod yn athro prydyddiaeth yn Rhydychen yn 1841, tybiai Isaac Williams a'i gyfeillion nad oedd neb teilyngach nag ef i'r swydd, ond wedi llawer o ddigofaint ac ymrafael penderfynodd dynnu'i enw yn ôl, a dewiswyd James Garbett. Chwerwodd braidd oherwydd y siom a gafodd mewn rhai a fu hyd yn hyn yn honni cyfeillgarwch ag ef, ac ymadawodd â Rhydychen. Ar 22 Mehefin 1842, priododd Isaac Williams a Caroline, trydedd merch Arthur Champernowne, a chyda hyn aeth yn gurad i Thomas Keble yn Dartington, lle'r arhosodd hyd 1848, pan symudodd i Stinchcombe ger Dursley. Bu farw yno 1 Mai 1865, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf hwnnw, a gosodwyd ffenestr liw i'w goffau yng nghapel Coleg y Drindod. Bu farw ei weddw 1 Chwefror 1886. Ganwyd iddynt chwe mab ac un ferch.
Cyhoeddwyd tua 37 o'i weithiau gan gynnwys Thoughts in past years …, 1838; Hymns translated from the Parisian Breviary, 1839; A Sermon [on Rev. xxi, 2-3] preached at the consecration of the Church of Llangorwen, 1841; The Gospel narrative of Our Lord's Ministry, 1848, 1849; A Harmony of the Four Evangelists, 1850; Plain sermons on the latter part of the Catechism, 1851; The Apocalypse, with notes …, 1852; Sermons on the Epistles and Gospels for the Sundays and Holy Days …, 1853; Female characters of Holy Scripture …, 1859; The Beginning of the Book of Genesis, with notes …, 1861; The Characters of the Old Testament, 1869; Devotional Commentary on the Gospel Narrative, 1870.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.